Mae dull arloesol o ragfynegi a ddatblygwyd gan Athro yn Ysgol Busnes Bangor yn newid prosesau cwmnïau byd-eang, gan gynnwys Uber, Amazon a Bosch. Syniad yr Athro Konstantinos Nikolopoulos yw’r Dull Theta ac mae'n galluogi rhagfynegi lefel stoc wedi'i optimeiddio fewn 10 milieiliad.
Mae Theta yn ddull cyfres amser sy'n gywir, cyflym a chyfrifiadol rhad, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio’n eang ar draws busnesau a llywodraethau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan arwain at arbedion economaidd sylweddol ac arbedion effeithlonrwydd.
Dyma rai enghreifftiau anhygoel o'i effaith:
Mae UBER yn defnyddio dull Theta ledled y byd ar gyfer rhagweld cyfresi amser.. Mae'n arbennig o fuddiol i Uber, gan fod angen eu rhagolygon ar amleddau amrywiol hyd at bob 10 milieiliad.
Mae BOSCH yn defnyddio Theta i ragweld y galw am eu cyfres boblogaidd iawn o offer pŵer.
Mae Amazon yn meincnodi yn erbyn Theta ar gyfer rhagweld holl ofynion a gwerthiannau cynnyrch, yn fyd-eang.Meincnod Amazon yn erbyn Theta ar gyfer rhagweld holl ofynion a gwerthiannau cynnyrch, yn fyd-eang.
Fe wnaeth pwyslais ymchwil Prifysgol Bangor, a chefnogaeth lawn academyddion blaengar fy ngalluogi i ddatblygu’r dull Theta i’r lefel nesaf, gan ei gadarnhau fel y meincnod eithaf mewn rhagfynegi diwydiannol.