Fy ngwlad:
Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Effaith ein hymchwil

Mae ein hymchwil o safon fyd-eang ac rydym yn gweithio ar y cyd i ddarparu atebion i broblemau sydd wedi’u gwreiddio yn y byd go iawn.

85%

o ymchwil Bangor gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2021)

2il

yng Nghymru am ansawdd ymchwil

(The Times and The Sunday Times Good University Guide, 2023)

30ain

yn y Deyrnas Unedig am effaith gymdeithasol

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2021)

Bydd ymchwil i blastigau morol de-ddwyrain Asia yn llywio polisi byd-eang

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ymchwilio i effaith llygredd plastig ar Ecosystemau Morol yn ne-ddwyrain Asia. Bydd canfyddiadau'r prosiect *£1.5M hwn yn helpu llywio datblygiad polisi ledled y byd. 

Ystyrir bod gan dde-ddwyrain Asia rai o'r lefelau uchaf o blastig morol yn y byd. Gallwn fwrw amcan bod tua 5 miliwn tunnell o blastig yn mynd i'w dyfroedd bob blwyddyn, a bod cyfran dda ohono’n mynd i’r môr yn y pen draw.

Mae'n rhanbarth hynod fioamrywiol, ac mae’n gartref i oddeutu 34% o riffiau cwrel y byd a 25-33% o’r coedwigoedd mangrof. Dyma hefyd y trydydd rhanbarth daearyddol mwyaf poblog yn Asia, ac mae dros dri chwarter y boblogaeth yn byw mewn cymunedau arfordirol.
Mae’r plastigau’n achosi effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mawr sy’n effeithio'n negyddol yn eu tro ar iechyd, lles a bywoliaethau pobl yng nghymunedau’r arfordir. 

Roedd ymchwil Prifysgol Bangor yn canolbwyntio ar sicrhau dealltwriaeth well o broblem llygredd plastig, er mwyn rhoi mesurau lliniaru ar waith i fynd i'r afael â'r broblem.

Eglura arweinydd y project, yr Athro Simon Neill o Brifysgol Bangor: 

“Mae grant NERC de-ddwyrain Asia a arweinir gan Brifysgol Bangor yn cyfuno modelau a dulliau maes i gyfrifo llwybrau cludo llygredd plastig yn Ynysoedd y Philipinau, gan gynnwys sut mae’r mecanweithiau gwasgaru’n newid wrth i’r plastigau ddirywio ar y daith o’r ffynhonnell hyd at suddo.”

Yn erthygl yr adolygiad, aeth ymchwilwyr i’r afael â nifer o gwestiynau gan gynnwys taith a thynged llygredd plastig morol, ei ddirywiad, a’r effaith a’r risgiau posib i’r cymunedau sy’n dibynnu ar y môr am eu hincwm. 

Dywedodd Nia Jones, Myfyriwr Ôl-radd o Brifysgol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a chyd-awdur y papur: 

“Mae fy ymchwil PhD yn canolbwyntio ar fodelau cludo microblastigau o'r ffynhonnell hyd at y suddo. Roedd yn gyfle gwych i fod yn rhan o dîm rhyngwladol a thrawsddisgyblaethol fel hwn a'r nod o roi sylw i faterion ehangach sy’n ymwneud â llygredd plastig yn ne-ddwyrain Asia. 

“Mae symudiad a thynged llygredd plastig yn y rhanbarth yn fater cymhleth, y mae cerrynt y cefnfor a’r rhyngweithio ag amgylcheddau’r arfordir a gwely’r môr yn effeithio arno. Mae astudiaethau'n dechrau nodi parthau o gronni mawr a ffynonellau llygredd ac felly mae'n bwysig tynnu sylw at y bylchau gwybodaeth ynghylch sut mae'n mynd o'r ffynhonnell hyd at suddo, a'r effeithiau posib ar hyd y ffordd. 

“Roeddem yn anelu at wneud hynny yn yr adolygiad, a thynnu sylw at y materion amlddisgyblaethol sy’n gysylltiedig â llygredd plastig yn rhanbarth de-ddwyrain Asia a nodi’r meysydd o bryder ar gyfer ymchwil y dyfodol.”

Amlygodd canfyddiadau'r ymchwil feysydd pwysig sydd angen ymchwil pellach ac yn y pen draw bydd yn helpu llywio datblygiad polisi at y dyfodol. O ystyried bod de-ddwyrain Asia yn cyfrannu bron i draean (30%) y llygredd plastig morol i gefnforoedd y byd, mae'r gwledydd hyn yn rhoi cyfle i brofi newidiadau arloesol lle mae rheoli plastig morol yn y cwestiwn a chynnig modelau ymarferol i weddill y byd. 

Ariennir y project ar y cyd gan NERC a'r Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol (NRF) yn Singapore. Mae’n un o bedwar project sy’n ymwneud â phlastigau yn ne-ddwyrain Asia a ariennir o dan alwad £6M ar y cyd gan NERC/NRF “Deall effaith llygredd plastig ar ecosystemau morol yn ne-ddwyrain Asia”. Cyfrannodd y pedwar project at yr erthygl adolygu. 

Mae'r 'hunlun meddwl' yn datgelu sut rydyn ni'n gweld ein hunain

Yn oes yr 'selfie', ni fu erioed yn haws i gymryd hunanbortread sydyn. Dadleua llawer y gall yr obsesiwn â hunluniau droi rhai ohonom ni yn narsisistiad, tra gall eraill deimlo'n fwy anfodlon gyda delwedd eu corff.

Ond sut mae ein delwedd feddyliol ohonom ein hunain yn gwyro oddi wrth yr hyn y mae eraill yn ei weld?

Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Llundain yw'r cyntaf i ddatblygu dull o ddelweddu'r hunanbortreadau meddyliol sydd gennym ni yn ein meddyliau. Roeddent yn archwilio sut mae’r ffordd yr ydym yn gweld ein hunain yn llygad ein meddwl yn gwyro oddi wrth yr hyn y mae eraill yn ei weld, ac yn cael ei effeithio gan bethau fel ein personoliaethau a’n hunan-barch.

Disgrifiodd prif awdur y papur, Dr Lara Maister o Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol Bangor, sut roedd y tîm yn gallu dyfeisio ffordd i gael mynediad i ddelwedd feddyliol pobl eraill ohonynt eu hunain, a hefyd i gymharu’r ddelwedd honno â realiti.

Gan ddefnyddio techneg gyfrifiadurol, ail-grewyd delweddau meddyliol y cyfranogwyr o'u hwynebau eu hunain. I greu’r hunlun meddylio hwn mae cyfranogwyr yn gweld dau wyneb ar hap gan orfod dewis bob tro yr un sy'n edrych yn debycach i'w hwyneb eu hunain - proses a ailadroddir gannoedd o weithiau. Ar y diwedd, gall yr ymchwilwyr gyfartaleddu'r holl ddelweddau yr oedd pobl yn meddwl eu bod yn  fwy tebyg iddynt, ac mae hynny'n caniatáu iddynt ddelweddu 'hunluniau meddyliol' y cyfranogwyr..

Yn ddiddorol, canfu’r tîm nad oedd lluniau meddyliol pobl o'u hymddangosiad o reidrwydd yn adlewyrchu’r gwirionedd,, ac yn hytrach yn cael eu dylanwadu gan y math o bersonoliaethau y credai pobl fod ganddynt.

Esbonia Dr Lara Maister:

“Gwelsom fod eu credoau amdanynt eu hunain yn effeithio'n gryf ar sut y credent yr edrychent. Er enghraifft, os oedd rhywun yn credu ei fod yn allblyg, roedd yn gweld ei wyneb ei hun yn fwy hyderus a chymdeithasol nag yr ymddangosai i bobl eraill.”

Awgrymodd yr Athro Matthew Longo, o Brifysgol Birkbeck yn Llundain, a oedd hefyd yn rhan o'r tîm ymchwil:

“Bydd y gwaith yn ein helpu i ddeall mwy am ddelwedd y corff. Nawr fe allwn ni, am y tro cyntaf, ddechrau dirnad sut mae pobl eraill yn dychmygu eu bod yn edrych, yn bobl iach a’r rhai sy'n dioddef o anhwylderau delwedd y corff fel anhwylder dysmorffig y corff ”.

Gallai addasu'r dull hwn roi teclyn newydd i glinigwyr sy'n cefnogi pobl ag anhwylderau delwedd y corff i fesur a fu therapïau yn llwyddiannus.

Darganfyddwch fwy o'n hymchwil arloesol

Ym Mangor, mae ein hacademyddion yn cefnogi ei gilydd, gan weithio ar draws disgyblaethau a meysydd academaidd i ganfod datrysiadau ar y cyd.

Dr Katherine Steele ym Mhrifysgol Bangor

Dod â thlodi bwyd byd-eang i ben

Tacsi Uber

Chwyldroi busnesau mawr

Mae'r Athro Rebecca Crane yn eistedd ar gadair o flaen cefndir llwyd

Trawsnewid iechyd meddwl

Mae Dr Shelagh Malham yn sefyll o flaen cefndir llwyd

Brwydro yn erbyn COVID-19

Mae Dr Athanasia Papastergiou yn sefyll o flaen cefndir gwyrdd

Buddion dwyieithrwydd arloesol

Yr Athro Julia Jones mewn darlithfa ym Mhrifysgol Bangor

Gwarchod cadwraeth a’r gymuned

Dr Gavin Lawrence mewn labordy ymchwil chwaraeon Prifysgol Bangor

Ysgogi perfformiad athletaidd

Saif Dan Aberg o flaen cefndir du

Diogelu ecosystemau naturiol

Dr Simon Watt ac ymchwilydd benywaidd yn ymgymryd ag ymchwil prosthesis

Prosthesis arloesol

Mae Dr Yueng-Djern Lenn yn sefyll ar lanfa'r Prince Madog

Diogelu rhag trychineb naturiol

Mae'r Athro Christian Dunn yn sefyll o flaen cefndir du
Yr Athro Chrisitan Dunn, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol (Cynaliadwyedd)

Arwain ymchwil i ficroplastigion

Sefydliadau ymchwil

Dewch i ddarganfod mwy am ein hymchwil ar draws ein Hysgolion a Cholegau

Sefydliadau ymchwil

Dewch i ddarganfod mwy am ein hymchwil ar draws ein Hysgolion a Cholegau

Caiff gallu'r blaned i gefnogi ecosystem sefydlog a chydnerth ei erydu'n gynyddol gan weithgarwch dynol. Mae tystiolaeth gynyddol, a chonsensws, ein bod yn agosáu at sefyllfa lle bydd newidiadau sylweddol yn digwydd i'r amgylchedd a'n diwylliant, a’r rhain efallai yn amhosib eu dad-wneud. Yr her yw trawsnewid i fod yn gymdeithas ddynol gynaliadwy drwy economi gylchol.

Yr Athro Paul Spencer,  Dirprwy Is-ganghellor - Ymchwil ac Arloesi