Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan fyfyriwr gradd Meistr ym Mangor fod crynodiadau cyffuriau anghyfreithlon wedi cynyddu bedair gwaith mewn afonydd cyfagos yn ystod ac ar ôl Gŵyl Glastonbury, yn awgrymu effeithiau tymor hir i'r ecosystem.
Cododd lefelau cyffuriau penodol i lefelau y gwyddys eu bod yn effeithio ar gylchredau bywyd llysywod Ewropeaidd, sy'n rhywogaeth warchodedig.
Mae gŵyl Glastonbury yn un o’r gwyliau cerddoriaeth mwyaf amgylcheddol-ymwybodol yn y byd ac mae presenoldeb y llygryddion hyn o’r safle wedi dangos yr hyn sy’n debygol o fod yn broblem fyd-eang.
Mae tîm ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Naturiol bellach yn bwriadu lleihau’r effeithiau niweidiol hyn trwy ymchwilio i driniaeth gan ddefnyddio dulliau ecogyfeillgar, megis gwlyptiroedd trin adeiledig (constructed treatment wetlands - CTWs).
Mae’r ymchwil hon wedi cael sylw rhyngwladol ac mae wedi codi pryderon y gallai llygryddion o wyliau cerdd fod yn fater byd-eang.
Rwy’n hynod ddiolchgar i Brifysgol Bangor am ganiatáu imi ddilyn trywydd ymchwil mor ddiddorol. Mae'n wych astudio mewn prifysgol gyda chymuned ymchwil mor gref. Mae cyhoeddi fy mhroject meistr wedi bod yn nod i mi ers dechrau fy ngradd meistr, ac rwyf ar ben fy nigon iddo dderbyn y gydnabyddiaeth ryngwladol a wnaeth.