Fy ngwlad:
Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Dod â thlodi bwyd byd-eang i ben

Effaith ein hymchwil

Mae cael mynediad at fathau o reis addas, a gwybodaeth am sut i'w trin yn dda, wedi bod yn broblem ers tro i ffermwyr incwm isel yn India a Nepal.

Mae ymchwil arloesol dan arweiniad Prifysgol Bangor wedi gwella bywoliaeth mwy na 5 miliwn o aelwydydd ledled yr India a Nepal. Gwnaed hyn drwy i ni ddatblygu amrywiaeth reis newydd a all ymdopi â'r hinsoddau tyfu llym yn y gwledydd hyn.  

Mae'r amrywiaeth newydd hon yn darparu budd tybiedig blynyddol o £17 miliwn i'r cartrefi ffermio tlotaf yn yr India yn unig.

Mae'r buddion uniongyrchol hyn yn galluogi ffermwyr i blannu cnwd ychwanegol neu neilltuo amser i weithgareddau nad ydynt yn ymwneud ag amaethyddiaeth, gan ddarparu incwm ychwanegol a chaniatáu iddynt anfon eu plant i'r ysgol.

Pan fyddaf yn ystyried maint y tîm y mae Bangor yn ei arwain o’i gymharu â’r projectau sy’n digwydd mewn Canolfannau Ymchwil Rhyngwladol mawr, rwy’n wirioneddol falch bod ein gwaith wedi arwain at lwyddiant ar raddfa debyg.

Mae reis Ashoka bellach yn cael ei dyfu mor eang yn India â’r mathau o reis Nerica a dyfwyd yn Affrica a ddatblygwyd trwy ymdrechion rhyngwladol enfawr a lefelau ariannu syfrdanol, prosiectau llawer mwy na’n un ni, ond mae bywoliaeth cyn gymaint o bobl wedi elwa.

Dr Katherine Steele,  Arweinydd Ymchwil ac Uwch Ddarlithydd mewn Cynhyrchu Cnydau Cynaliadwy