Fy ngwlad:
Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Prosthesis arloesol

Effaith ein hymchwil

Mae ymchwilwyr ym Mangor wedi derbyn cyllid sylweddol i ddatblygu prosthesis braich uchaf sy'n haws i'w defnyddio ac yn fwy effeithiol, gan wella ansawdd bywyd babanod sydd wedi colli eu haelodau, a rhoi mwy o  annibyniaeth iddynt.

 

Mae’r ddarpariaeth prosthesis ar gyfer babanod a phlant ifanc yn gyfyngedig, ac nid yw’r egwyddorion gwyddoniaeth sylfaenol sy’n llywio sut mae plant yn dysgu defnyddio dyfeisiau prosthetig yn cael eu deall yn dda.

Mae’r prosiect ym Mhrifysgol Bangor yn gydweithrediad agos rhwng ymchwilwyr academaidd a chwmni datblygu prostheteg, Ambionics, a sefydlwyd ac a gyfarwyddwyd gan gyn-fyfyriwr seicoleg Bangor, Ben Ryan.

Roedd angen llawdriniaeth frys ar Sol, mab Ben, yn 10 diwrnod oed. Gwnaeth llawfeddygon y penderfyniad anodd i dorri braich chwith Sol ychydig o dan y penelin oherwydd ceulad gwaed. Nid oedd breichiau prosthetig ar gael i Sol nes ei fod yn flwydd oed,  a ysbrydolodd Ben i ddod o hyd i atebion newydd.

Gan ddefnyddio technoleg argraffu 3D o’r radd flaenaf yn labordy Arloesedd Prifysgol Bangor, llwyddodd Ben a staff y Brifysgol i greu prototeip newydd o fraich, llaw a bawd symudol i alluogi gafael.
Gan ddarparu prosthesis unigol unigryw i blant yn gyflym ac yn fforddiadwy, mae Ambionics eisoes wedi helpu dwsinau o deuluoedd, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Gan gyflwyno dulliau arbrofol ym maes gwyddor symud blaengar, mae’r cydweithrediad newydd ag academyddion o Fangor yn addo cryfhau dyfnder a hirhoedledd yr effaith hon drwy ddatgelu’r egwyddorion sy’n llywodraethu’r defnydd  o brosthesis mewn plant, a harneisio’r wybodaeth hon i lywio dyluniad prosthesis yn y dyfodol.

Mae dealltwriaeth wael iawn o egwyddorion y wyddoniaeth sylfaenol ynghylch sut mae baban yn dysgu defnyddio aelodau prostheteg yn effeithiol. Nod ein hymchwil yw gwella dealltwriaeth o’r egwyddorion sylfaenol sy'n llywodraethu sut mae'r ymennydd sy'n datblygu yn rheoli'r aelodau, a dyfeisiau allanol yn benodol.

Dr Simon Watt,  Uwch Ddarlithydd, Seicoleg, Prifysgol Bangor ac Ymchwilydd Cyd-arweiniol

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio gwyddor symudiad dynol i nodi’r egwyddorion hyn a datblygu prosthesis braich uchaf newydd ar gyfer babanod a phlant ifanc. Ein nodau yw gwella ymarferoldeb prosthesis a lleihau cyfraddau gwrthod, gwella ansawdd bywyd a rhoi annibyniaeth i blant sydd wedi colli breichiau a choesau.

Dr Ken Valyear,  Uwch Ddarlithydd, Seicoleg, Prifysgol Bangor a Chyd- Ymchwilydd Arweiniol.