Mewn cydweithrediad ag UK Sport, mae ymchwilwyr ym Mangor yn ymgymryd ag ymchwil o'r radd flaenaf.
Gan archwilio sut i adnabod perfformwyr chwaraeon hynod fedrus, trwy systemau datblygu talent arloesol, mae ymchwilwyr yn gofyn y cwestiwn: 'Beth sydd ei angen i athletwr ffynnu go iawn?'
Mae canfyddiadau o'r project ymchwil Pathway to Podium eisoes wedi'u gweithredu gan Swim England, GB Hockey, a British Canoeing.
Caiff canfyddiadau ymchwil o’r fath eu cynnwys yn ein gradd ar unwaith, weithiau cyn bod yr ymchwil honno ar gael yn eang yn y sector. Nid yw ein myfyrwyr ni yn yr un cae â myfyrwyr eraill a raddiodd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gan eu bod yn mynd â'r dysgu hwn at ddarpar gyflogwyr.
Mae arbenigedd academaidd Dr Gavin Lawrence, yr Athro Tim Woodman a’u tîm o fewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd ag arbenigedd cymhwysol staff UK Sport a’r EIS yn golygu bod gan ganfyddiadau’r prosiect hwn y potensial i siapio systemau datblygiad Chwaraeon y DU ar bob lefel.