Dianc a Darganfod Castell Penrhyn
Mae Campws Byw yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr archwilio Castell Penrhyn yr haf hwn. Adeiladwyd y castell yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae ganddo hanes hir a thiroedd helaeth i'w harchwilio. Cadwch olwg ar y tywydd a gwisgwch yn unol â hynny, gan bacio dŵr a byrbrydau. Mae caffis yn y castell i unrhyw un sy'n dymuno prynu bwyd neu ddiod yno.