Darlithoedd Shankland 2017
Uchafbwynt Darlithoedd Shankland eleni oedd lansio 'The Oxford Handbook of Early Modern English Literature and Religion', a olygwyd gan Yr Athrawon Andrew Hiscock a Helen Wilcox o'r Ysgol Saesneg. Dathlwyd y lansiad gyda darlith gan yr Athro Emeritws Tom Corns ar 'The bonds that unite us' (D. Trump): religion and literature in the 17th century. Yn y gwanwyn bu Dr Michael Durrant yn siarad am yr argraffydd modern cynnar Henry Hills.
18 April 2018. Dr. Michael Durrant, School of English Literature. "Henry Hills: Starting out as an early modern printer".
29 Tachwedd 2017 Yr Athro Emeritws Thomas Corns. ‘“The bonds that unite us” (D. Trump): religion and literature in the 17th century’
Darlith i ddathlu lansiad 'The Oxford Handbook of Early Modern English Literature and Religion'.
Dilynwyd y ddarlith gan lansiad swyddogol The Oxford Handbook of Early Modern English Literature and Religion, cyfrol arloesol a olygwyd gan Yr Athrawon Andrew Hiscock a Helen Wilcox, y ddau o Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor. Mae'r llyfr yn cynnwys gwaith dros ddeugain o ysgolheigion ym maes llenyddiaeth a chrefydd fodern cynnar, sy'n gweithio mewn prifysgolion yn y DU, ar gyfandir Ewrop ac yng ngogledd America. Cafwyd diodydd dathlu a cherddoriaeth i gyd-fynd â'r lansio.