Fy ngwlad:
sunny main arts building

Canolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr

Canolfan ryngddisgyblaethol yw Canolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr i hyrwyddo astudiaethau uwch o orffennol, presennol a dyfodol y llyfr fel arteffact, a'r diwylliannau sy'n gysylltiedig ag ef. Gan weithio mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mangor a thu hwnt, mae diben deublyg i'r Ganolfan: cryfhau ac ehangu ein dealltwriaeth o le'r llyfr mewn meysydd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd, a datblygu ein dealltwriaeth o'r llyfr yn gyffredinol fel nwydd diwylliannol, cludydd gwybodaeth a rhywbeth i'w chwenychu.

Darlithoedd Shankland || Darnau Achlysurol 
Darlithoedd Coulclough || Cysylltu â ni

Darlithoedd Blynyddol Stephen Colclough

The Romance of Bookselling: the Value of Bookshops, Past and Present

Samantha J. Rayner, Darllenydd mewn Cyhoeddi a Chyfarwyddwr y Centre for Publishing, Coleg Prifysgol, Llundain

Mae Samantha J. Rayner yn Gyfarwyddwr y Centre for Publishing yng Ngholeg Prifysgol, Llundain. Mae'n dysgu ac yn ysgrifennu ar gyhoeddi a phynciau cysylltiedig â llyfrau, gyda diddordebau arbennig mewn cyhoeddi archifau a chyhoeddi paradestunau, llyfryddiaeth, diwylliant gwerthu llyfrau, golygyddion a golygu, bibliotherapi, a chyhoeddi academaidd. Hi oedd y Prif Ymchwilydd ar broject dylanwadol yr AHRC / Llyfrgell Brydeinig, sef 'Academic Book of the Future' (gweler http://academicbookfuture.org/). Mae hi'n Ddirprwy Olygydd Journal of the International Arthurian Society, a'r Golygydd Cyffredinol ar gyfer cyfres newydd o gyhoeddi monograffau bychain gyda 'Cambridge University Press'.

'Tatters and patches in early modern England: finding old texts in new books'

Mae Adam Smyth yn Athro Llenyddiaeth Saesneg a Hanes y Llyfr yng Ngholeg Balliol, Rhydychen Mae'n gweithio ar groestoriad y llenyddiaeth a'r deunydd, yr archifol a'r canonaidd, yn enwedig (ond nid yn unig) yn y cyfnod modern cynnar. Ei lyfr diweddaraf yw Material Texts in Early Modern England (Cambridge University Press, cyhoeddwyd 2018), sy'n edrych ar ymarferoldeb dyfeisgar testunau modern cynnar, a'r pethau rhyfeddol a wnaeth darllenwyr i lyfrau yn enw darllen (torri, gludo, gwneud nodiadau arnynt, eu llosgi).

'Tatters and patches in early modern England: finding old texts in new books'

Cysylltu â ni

  • Sue Niebrzydowski
    • 01248 382111
    • s.niebrzydowski@bangor.ac.uk
  • Eben Muse
    • 01248 388628
    • e.muse@bangor.ac.uk
  • Shan Robinson
    • s.a.robinson@bangor.ac.uk

Llywodraethu

Dr. Eben J. Muse

Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau Digidol, Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Cymrawd yr AAU
Rwy’n astudio’r arloesiadau aflonyddol yn y diwydiant cyhoeddi a’r fasnach lyfrau a ddaeth yn sgil potensial cynyddol y technolegau digidol. Mae gennyf ddiddordeb yn y ffyrdd mae'r technolegau hynny’n ailddiffinio un o'r offerynnau mwyaf sylfaenol sydd gennym i gasglu gwybodaeth, datblygu a rhannu: sef y llyfr. Rwy’n fab i lyfrwerthwr, a gwelais y newidiadau mawr ym myd manwerthu llyfrau’n cyniwair gyda thwf technolegau a diwylliannau digidol a rhwydweithiol. Rwy’n gweithio gyda manwerthwyr llyfrau a chyhoeddwyr, yn enwedig yng Nghymru a New England, i ddeall sut y gellir defnyddio’r technolegau hynny, nid yn unig i symleiddio arferion presennol ond hefyd i ddatblygu ffyrdd newydd o ychwanegu gwerth at y llyfr sylfaenol. Rwy'n cymhwyso fy ngwaith ar gymhlethdod, gofodoldeb, bydoedd rhithwir a gofod amser i ddeall y ffyrdd y mae gofod y llyfr a gwerthu llyfrau’n esblygu.

Dr Sue Niebrzydowski

Darllenydd yn Llenyddiaeth Saesneg yr Oesoedd Canol, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth, Cymrawd yr AAU
Bu gennyf broffil ymchwil rhyngddisgyblaethol erioed, a bûm yn canolbwyntio'n fwyaf arbennig ar ferched canoloesol fel darllenwyr llenyddiaeth. Rwy’n aelod o'r rhwydwaith rhyngwladol, Diwylliant Llenyddol Merched a'r Canon Llenyddol, a ariennir gan Leverhulme (http://www.surrey.ac.uk/medievalwomen/index.htm), ac ar hyn o bryd rwy’n archwilio’r llenyddiaeth yr oedd merched yr Oesoedd Canol yn ei chynhyrchu ac yn darllen am y Forwyn Fair, a’r mathau o lyfrau sy’n cynnwys tystiolaeth o’u hymroddiad i Fair.

Shan Robinson

Swyddog Cefnogaeth Academaidd, (CAH) a Chydlynydd Casgliadau Arbennig
Rwy’n gweithio yn Llyfrgell y Brifysgol ers 30 mlynedd. Mae gennyf rôl ddeuol yn y llyfrgell, fel Cydlynydd y Casgliadau Arbennig, a Swyddog Cefnogaeth Academaidd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Astudiais ar gyfer fy ngradd mewn Astudiaethau Cymdeithasol trwy'r Adran Dysgu Gydol Oes, ac yna mi wnes i radd Meistr mewn Astudiaethau Merched yn yr un adran yn 2013. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r casgliadau yn y Llyfrgell Gymraeg, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hanes merched Cymru.  Hanes addysg merched yng Nghymru oedd pwnc fy nhraethawd hir MA. Rwyf yn un o gynrychiolwyr gogledd Cymru ar bwyllgor Archif Merched Cymru, grŵp sy’n ymrwymo i hyrwyddo’r astudiaeth, ac achub a chadw ffynonellau, hanes merched yng Nghymru. Mae'r archif hefyd yn cynnal projectau ymchwil sy'n hybu gwybodaeth y cyhoedd am fywydau merched yng Nghymru.
Bydd y bwrdd rheoli yn cyfarfod unwaith y semester a bydd cofnodion y cyfarfod yn cael eu dosbarthu i'r bwrdd ymgynghorol i roi sylwadau arnynt. Cynhelir cyfarfod cyffredinol blynyddol i roi adroddiad ar gynnydd blynyddol.
  • Yr Athro Andrew Edwards, Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
  • Yr Athro Emerita Helen Wilcox, Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
  • Elen Simpson, Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
  • Yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
  • Dr. Maredudd ap Huw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Yr Athro Sandro Jung, Adran Astudiaethau Llenyddol, Prifysgol Ghent
  • Yr Athro Samantha J. Rayner, Cyfarwyddwr y Centre for Publishing, Department of Information Studies, yng Ngholeg Prifysgol, Llundain.
  • Yr Athro Adam Smyth, Cyfadran Saesneg, Prifysgol Rhydychen
  • Dr Hazel Pierce, Achydd Annibynnol ac Ymchwilydd
  • Mr Stephen Rees, Darlithydd mewn Cerddoleg, Prifysgol Bangor
  • Yr Athro Carol Tully, Athro Almaeneg, Prifysgol Bangor
  • Dr Shaun Evans, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Prifysgol Bangor
  • Yr Athro Samantha Rayner, Coleg y Brifysgol, Llundain
  • Jin Qian, Prifysgol Three Gorges, Tsieina