Aduniad Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Aduniad y cyn-fyfyrwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf
Ymunwch â ni yn aduniad blynyddol cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sy'n cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd eleni. Bydd yr aduniad yn cael ei gynnal ar stondin Prifysgol Bangor am 2pm ddydd Mercher, 7 Awst.
Dewch draw i ddal i fyny gyda'ch cyn-gyd-ddisgyblion dros luniaeth ysgafn a chael clywed am y datblygiadau diweddaraf yn y Brifysgol gan ein Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Andrew Edwards. Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni.
Cynhelir amrywiaeth eang o weithgareddau ar y stondin drwy gydol yr wythnos (3 – 10 Awst), felly galwch heibio ar unrhyw adeg i ddweud helo a gweld beth sy'n digwydd!
Mae rhagor o fanylion am yr Eisteddfod ar gael yma: https://eisteddfod.cymru/