Cronfa Bangor yn cefnogi ymweliad i Archifau Stanley Kubrick
Diolch i Gronfa Bangor sy’n cael ei weinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, cafodd grŵp o ddeg o selogion Kubrick o’r Adran Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol, Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau gyfle i archwilio Archifau Stanley Kubrick ym Mhrifysgol Celfyddydau Llundain. Roedd y myfyrwyr israddedig yn dilyn y modiwl Stanley Kubrick: Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr, sy’n cael ei addysgu gan yr Athro Nathan Abrams.
Cawsant eu tywys o amgylch y Ganolfan Archifau a Chasgliadau Arbennig, lle gwelsant femorabilia anhygoel sy’n gysylltiedig â Kubrick, megis esgidiau Converse coch Danny Torrance o The Shining. Cawsant hefyd drin deunyddiau gwreiddiol o ffilmiau Kubrick ac edrych ar yr ystafell ddiogel lle cânt eu storio.
Yr Athro Nathan Abrams o'r Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau: “Dw i wedi bod yn ymweld ag Archifau Stanley Kubrick ers 2012 ac yr oedd yn wych i gael rhannu’r profiad yma gyda fy myfyrwyr. Dw i’n ddiolchgar iawn i Gronfa Bangor am y cyfle.”
Dywedodd Madalin Matthewson, myfyrwraig Astudiaethau Ffilm a Chynhyrchu yn ei hail flwyddyn, “Roedd archifau Stanley Kubrick yn ardderchog ac roedd y staff yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn. Roedd yn brofiad gwych i unrhyw un sy'n caru Kubrick a'i ffilmiau.”
Ychwanegodd Persida Chung, Swyddog Datblygu, "Rydym bob amser yn hapus i gefnogi prosiectau fel y rhain ac rydym yn ddiolchgar iawn i'n rhoddwyr hael am eu cefnogaeth barhaus fel y gallwn ddarparu profiad gwerth chweil i fyfyrwyr."