Cronfa Bangor yn darparu byrddau sgorio i gaeau chwarae Treborth
Mae Cronfa Bangor, a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, wedi galluogi Chwaraeon Bangor i brynu a gosod dau fwrdd sgorio awyr agored newydd.
Mae'r byrddau sgorio newydd i’w canfod ar y cae chwarae 3G ar gaeau chwarae Treborth ac ar y cae hoci ar Safle Ffriddoedd. Mae'r ddau gae yn cynnal dros 200 o gemau bob blwyddyn ynghyd â bod yn adnoddau allweddol ar gyfer cymuned ehangach Bangor.
Mae gosod y byrddau sgorio hyn - sy'n dangos y sgôr, yn mesur amser ac yn darparu arddangosydd gweledol i chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr - wedi gwella profiad myfyrwyr sy’n aelodau o glybiau chwaraeon y Brifysgol. Mae gosod y byrddau sgorio ar y ddau safle chwaraeon gwahanol wedi sicrhau y gall nifer o glybiau chwaraeon elwa o'r un profiad. Mae'r rhain yn cynnwys pêl-droed dynion a merched, rygbi dynion a merched, hoci dynion a merched a chlybiau lacrós dynion a merched. Mae dros 500 o fyfyrwyr yr wythnos yn elwa ar y cyfarpar hwn.
Meddai Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni, "Roedd cymaint o'n cyn-fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn clybiau chwaraeon yn ystod eu cyfnod ym Mangor ac mae gallu ariannu dau fwrdd sgorio newydd yn dangos mewn modd gweladwy iawn y gefnogaeth y mae cyn-fyfyrwyr yn ei rhoi i fyfyrwyr presennol.”
Mae Cronfa Bangor yn fodd i'r brifysgol ragori a rhoi elfennau “ychwanegol” i'r profiad a gaiff ei myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth a'r ffurflen gais cliciwch yma neu cysylltwch a Persida Chung, Swyddog Datblygu, ar p.v.chung@bangor.ac.uk