Y SWYDD:
- Ffonio cyn-fyfyrwyr (graddedigion) Bangor i siarad â nhw am eu profiad yma, a gofyn iddynt gefnogi Cronfa Bangor gyda rhodd
- Gwneud cysylltiad personol, bod yn wyneb Prifysgol Bangor a dod â chyn-fyfyrwyr yn ôl i'r brifysgol trwy'r alwad
- Mae rhoddion gan gyn-fyfyrwyr wedi ariannu, er enghraifft, ysgoloriaethau a bwrsariaethau, interniaethau, grantiau teithio, darpariaeth chwaraeon a gweithgareddau iaith Gymraeg a diwylliannol. Bydd angen i chi ddefnyddio'ch profiad eich hun neu gyd-fyfyriwr i ddod â hyn yn fyw ar y ffôn
Y MANTEISION:
- Tâl deniadol o £13.45 yr awr!
- Gwella eich sgiliau i'w hychwanegu at eich CV - byddwch chi'n dysgu sut i drafod, gwella eich sgiliau cyfathrebu, gweithio fel rhan o dîm a llawer mwy
- Hyfforddiant llawn a chefnogaeth
- Cyfle i siarad â rhai pobl wirioneddol ddiddorol, ysbrydoledig a dylanwadol
- Codi arian ar gyfer projectau gwych ar draws Prifysgol Bangor
- Gweithio o gwmpas eich ymrwymiadau prifysgol - shifftiau gyda'r nos a'r penwythnos
- Rydyn ni'n cynnal dwy ymgyrch y flwyddyn, felly mae posibilrwydd i gael gwaith cyson
GOFYNION:
- Agwedd aeddfed gyfrifol, gan fod yn brydlon a dibynadwy tu hwnt
- Yn hynod o glir ar lafar, gyda ffordd wych ar y ffôn
- Y gallu i ymwneud ag ystod fawr o bobl a chyfathrebu â nhw - sgiliau gwrando da a safon uchel o Saesneg llafar ac ysgrifenedig ac, i rai aelodau o'r tîm, hefyd y gallu i gyfathrebu i safon uchel o Gymraeg ysgrifenedig a llafar
- Dyfalbarhaus, creadigol a hyblyg - yn gallu troi pethau negyddol yn gadarnhaol, a thrafod i gael canlyniadau y cytunir arnynt
- Brwdfrydig ac angerddol am Fangor - yn hapus i siarad am eich gwybodaeth am y brifysgol a'ch adran
- Byddwch chi'n unigolyn diddorol iawn, yn fedrus mewn sawl maes, ac yn gallu cynnal sgyrsiau difyr - caiff cymryd rhan mewn clybiau a chymdeithasau Prifysgol Bangor ei ystyried yn ddefnyddiol, ond nid yw hynny'n hanfodol
- Er nad yw'n hanfodol, byddwn yn falch o glywed a ydych chi'n siarad unrhyw ieithoedd eraill yn ogystal â'r Saesneg
RHAID I CHI ALLU DOD I'R CANLYNOL:
Sesiynau recriwtio- Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, fe'ch gwahoddir i ffug brawf ffôn ac os ydych chi'n llwyddiannus, gofynnir i chi ddod am gyfweliad.
Sesiwn hyfforddi - bydd yr hyfforddiant yn cael ei drefnu cyn i'r ymgyrch ddechrau.
Ffonio- diwrnod cyntaf y galw fydd dydd Llun, 17 Mawrth 2025, a chynhelir yr ymgyrch am 4 wythnos tan ddydd Sul, 13 Ebrill 2025
Er gwybodaeth i chi, dyma'r shifftiau:
O ddydd Llun i ddydd Iau o 6yh tan 9yh
dydd Sul, 3:30yh tan 6:30yh

Telethon Cronfa Bangor
Mae ein hymgyrchoedd telethon yn cynnig cyfle cyffrous i fyfyrwyr chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fynd ar ofyn cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor am gyfraniadau dyngarol. Trwy gydol pob ymgyrch, rydym yn cysylltu â chyn-fyfyrwyr i roi gwybod iddynt am y newyddion diweddaraf o’r brifysgol ac am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, a’u hannog i gefnogi ein myfyrwyr a'n staff trwy gyfrannu mewn amrywiol ffyrdd. Mae'r cyfraniadau hyn yn helpu i ariannu ystod eang o fentrau yn y brifysgol, gan gynnwys bwrsariaethau, grantiau i fynd ar leoliad, projectau ymchwil, clybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, a llawer mwy o brojectau sydd o gymorth i wella profiad myfyrwyr.
Y tu hwnt i godi arian, mae'r ymgyrch ffôn yn ffordd werthfawr iawn i Brifysgol Bangor gadw cysylltiad â chyn-fyfyrwyr a meithrin perthynas hirhoedlog â nhw. Mae cyn-fyfyrwyr yn gwerthfawrogi clywed am fywyd myfyrwyr Bangor heddiw a chael hel atgofion am eu profiadau eu hunain yn y brifysgol.
Mae croeso i chi anfon e-bost Tîm Telethon Cronfa Bangor os hoffech chi sgwrsio ag un o'n cydweithwyr am y swydd.



