Fy ngwlad:

Arbed amser a gwella effeithlonrwydd ymchwil drwy ddefnyddio meddalwedd Mendeley i helpu gyda chyfeirio

Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offeryn/adnodd hwnnw?  

Yn gryno, i fynd i'r afael ag 'Amser,' 'Cywirdeb,' a ‘Cynhyrchiant'.  
Bydd y rhai ohonom ni fu yn y byd academaidd ers tro yn cofio creu ein cyfeiriadau ein hunain gyda phentyrrau o ddogfennau printiedig wrth ein penelin, gyda nodiadau a darnau wedi eu haroleuo ar bob un, a wnai gyfeirio yn orchwyl ddiflas. Heb sôn am rwystredigaeth cyfeiriadau anghyflawn gan fod manylion y cyfnodolyn yn annarllenadwy oherwydd sgiliau llungopïo gwael. 
Gall offer rheoli cyfeirio (RMTs) fod yn fodd o greu llif gwaith effeithlon pan rydych yn ymchwilio, gan helpu gyda phopeth o’r darganfod, y cywain ynghyd a’r dyfynnu

Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio’r offeryn/adnodd hwn? 

Y nod yw dod â phapurau ymchwil/gwybodaeth o ddyfeisiau lluosog a chyfleusterau storio ar-lein at ei gilydd yn un darn o feddalwedd cwmwl i wneud cyfeirio’n haws. Mae’n arbed amser ac egni ac yn creu cytgord rhwng darganfod gwybodaeth a’i chywain ynghyd na fyddai'n bosib fel arall. Caniataodd Mendeley i mi wneud hyn i gyd. 

Mendeley logo

I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offeryn/adnodd?   

Defnyddiais ef i lunio fy ymchwil ar gyfer cwrs lefel meistr, ond mae hefyd yn ddefnyddiol i lunio llyfrgell o ddogfennau yn ymwneud â fy ngwaith beunyddiol. Mae'n anodd cadw golwg ar ddatblygiadau newydd, ond mae medru storio gwybodaeth ar-lein wrth ei chanfod ac y gellir ei hadolygu wedyn ar adeg fwy cyfleus yn golygu na fyddaf yn gwastraffu amser yn chwilio drwy hanes pori gwefannau nac yn colli erthyglau diddorol. 

Pa mor dda oedd yr offeryn/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?  

Rwy'n argymell offeryn rheoli cyfeirio i bwy bynnag fydd yn gwrando! Mae Mendeley yn offeryn syml hygyrch a rhad ac am ddim sy'n hawdd dysgu sut i’w ddefnyddio. Caiff nodweddion newydd eu hychwanegu drwy'r amser. 
Mae'r amser a arbedwyd yn amhosibl i'w fesur. Rydych chi'n storio, darllen, gwneud nodiadau, a dyfynnu o un offeryn yn y cwmwl ac felly mae eich deunydd ymchwil gyda chi bob amser (mae modd ei ddefnyddio all-lein hyd yn oed). Mae'n trawsnewid y ffordd rydych chi'n ymwneud â gwybodaeth, nid yn unig yn y ffyrdd a grybwyllwyd uchod, ond mae hefyd yn darparu offer i wneud nodiadau unigol, nodi erthyglau gyda geiriau allweddol (gan ei gwneud hi'n haws chwilio'ch llyfrgell erthyglau sy'n ehangu o hyd,) ac yn darparu llyfr nodiadau i chi i drefnu meddyliau, creu rhestrau gorchwylion, llunio diffiniadau, rhestru trywyddau ymchwil newydd… Mae hyn yn fodd ichi ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi’n ei ddarllen ac yn eich galluogi ar yr un pryd i gofnodi'r hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf, i gyd heb adael yr offeryn
Yn ogystal, mae'r amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael ar-lein wedi cynyddu oherwydd technolegau’r we a chyfryngau cymdeithasol ac mae'n cynnwys metadata cymhleth - gall cyfeirio at y rhain achosi dryswch ymhlith myfyrwyr a gall meddalwedd rheoli cyfeirio helpu gyda hyn. Mae newid arddulliau hefyd yn rhwydd. 

Pa mor dda gafodd yr offeryn/adnodd ei dderbyn gan fyfyrwyr? 

Gyda phob semestr, mae mwy a mwy o fyfyrwyr ôl-radd yn dweud wrtha i y byddai’n dda pe gwyddent am yr offer yma pan oeddent yn israddedigion. Mae wynebau yn llythrennol yn goleuo! Yn enwedig y rhai sydd wedi cael trafferth creu cyfeiriadau eu hunain. Ymddengys eu bod yn mwynhau'r agweddau trefniadol hefyd. Mantais fawr yw cael un gronfa wybodaeth a pha mor hawdd y gellir ymgorffori erthyglau newydd. Maent hefyd yn hoffi’r asio sydd yna â Microsoft Word gan ei fod yn syml iawn, gan ei gwneud hi’n hawdd iawn dyfynnu erthyglau a chreu rhestr gyfeirio.  

Rhannwch 'Awgrym Da' ar gyfer cydweithiwr sy'n newydd i'r offeryn/adnodd 

Byddwn i'n dweud 'Tagio' a chreu 'Casgliadau'. Gall hyn ddeillio o fod yn llyfrgellydd. Fodd bynnag, peidiwch â diystyru'r manteision. Rwy'n sylweddoli ei fod yn gam ychwanegol ond dychmygwch eich Llyfrgell Mendeley ymhen tair blynedd - yn llawn papurau ac erthyglau gwych. Nid yw'r offeryn chwilio safonol yn ddigon manwl gywir. Fodd bynnag, os ydych chi wedi defnyddio geiriau allweddol fel tagiau o'r dechrau, ac wedi trefnu papurau'n gasgliadau, yna byddwch yn gallu canfod yr union erthygl mewn eiliadau gan y gellir gweld cofnodion wedi'u tagio ym mhob casgliad ar wahân. Yn y bôn, defnyddiwch yr offeryn cyfan, nid dim ond yr agwedd dyfynnu. 

Sut fyddech chi'n crynhoi'r profiad mewn 3 gair?

Dulliau Ymchwil Trawsnewidiol 

Deunydd darllen a argymhellir: 

Bapte, V.D. and Bejalwar, S.A. (2022) “Promoting the Use of Reference Management Tools: An Opportunity for Librarians to Promote Scientific Tradition,” DESIDOC Journal of Library & Information Technology42(1), pp. 64–70. Available at: https://doi.org/10.14429/djlit.42.1.17251

Reis, M.A.F. et al. (2022) “Knowledge management in the classroom using Mendeley technology,” The Journal of Academic Librarianship48(4), p. 102486. Available at: https://doi.org/10.1016/J.ACALIB.2021.102486

SharePoint Resource: Reference Management tools for organising my references 

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth:

Marc Duggan: marc.duggan@bangor.ac.uk