Gweithdy DPP CELT
Gwella Eich Addysgu
Mae cael cymheiriaid yn arsylwi ar eich arferion addysgu neu gymorth dysgu yn eich galluogi i ddatblygu trwy hunanfyfyrio, rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a nodi meysydd sydd angen cymorth.
Crëwyd y cynllun i alluogi cyfranogwyr i fyfyrio ar arferion Addysgu a Dysgu gan gyfeirio at Gôd Ansawdd Addysg Uwch ASA a Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysgu a Chefnogi Dysgu mewn Addysg Uwch (UKPSF).
Mae Cynllun Cefnogi Cydweithwyr Bangor yn agored i bob aelod o staff sy’n addysgu a/neu’n cefnogi dysgu. Disgwylir y bydd yr holl staff academaidd sydd â rôl addysgu yn cymryd rhan yn y cynllun unwaith bob blwyddyn academaidd fel rhan o ddeuawd neu driawd arsylwi cydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys darlithwyr rhan amser ac ymarferwyr proffesiynol sy’n cyfrannu’n rheolaidd at addysgu. Bydd myfyrwyr ôl-raddedig sy’n addysgu yn cael eu harsylwi fel rhan o’u gofyniad i ymgymryd â hyfforddiant Ysgol-benodol neu’r Dystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCertTHE). Ni fydd yn ofynnol i siaradwyr allanol gymryd rhan yn y cynllun llawn, ond os oes rhai sydd yn cyfrannu’n gylchol fesul blwyddyn academaidd, dylai arweinwyr modiwl o leiaf fynychu sesiwn a rhoi adborth llafar.
I gymryd rhan yn y broses Arsylwi Cymheiriaid a lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol, ewch i dudalen FyMangor.
Mae Advance HE yn cynnwys arbenigwyr Addysg Uwch sy'n cydweithio i godi safonau yn y sector a gwneud addysgu a dysgu yn fwy cynhwysol i bawb.
Mae gan Advance HE dri nod strategol:
- cynyddu hyder ac ymddiriedaeth mewn Addysg Uwch
- mynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig yn y sector i ddiwallu anghenion esblygol
- cefnogi aelodau trwy ei waith ar addysgu a dysgu, llywodraethu, datblygu arweinyddiaeth a chynhwysiant
Gall Advance HE eich helpu drwy gefnogi eich ymarfer addysgu a chynnig arweiniad ar lywodraethu, datblygu arweinyddiaeth ac amrywiaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyrsiau datblygu a hyfforddiant sydd ar y gweill ar wefan Advance HE, yn ogystal ag adnoddau addysgiadol a manylion gwobrau.
Daeth dros ddau gant o wasanaethau academaidd a phroffesiynol ynghyd ar gyfer Cynhadledd CELT 2023 i rannu arbenigedd addysgu a dysgu. Lawrlwythwch raglen Cynhadledd CELT 2023 yma.
Manylion am ein cynhadledd nesaf ar gael yn fuan.
Galeri 2023 Cynhadledd CELT
Cwrdd Â’r Tîm
Newyddion Diweddaraf
Gweld Mwy![CELT LOGO](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2023-09/CELT-LOGO-4000.png?itok=GBE0dvHc)
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch celt@bangor.ac.uk