Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offer/adnodd hwn?
Daeth y cymhelliad i integreiddio ChatGPT yn rhan o sut yr ydw i yn addysgu codio o sylwi, er bod myfyrwyr yn ymdopi'n dda yn yr ystafell ddosbarth, gyda chefnogaeth uniongyrchol gen i a’r arddangoswyr, maen nhw’n aml yn cael trafferth cymhwyso eu sgiliau i broblemau newydd y tu allan i'r amgylchedd hwnnw. Rwy'n defnyddio ChatGPT yn rheolaidd yn fy ngwaith fy hun i godio'n fwy effeithlon, felly cam synhwyrol a dilys oedd rhannu'r offer hwn gyda’r myfyrwyr. Mae’n fy helpu i daflu syniadau ynghylch gwahanol ddulliau, datrys problemau, a mireinio fy nghod – sef tasgau y mae dysgwyr yn aml yn eu gweld yn anodd. Meddyliais y gallai ChatGPT fod yn gyfle i leihau rhwystredigaeth myfyrwyr drwy gynnig tasgau symlach, gan wneud i godio yn R deimlo fwy o fewn eu cyrraedd ac o fewn eu gallu.
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio’r offer/adnodd hwn?
Y nod oedd y datblygu’r myfyrwyr i fedru datrys problemau yn fwy annibynnol, a’u harfogi i fedru ymdrin â heriau codio heb arweiniad uniongyrchol. Mae dadfygio a dod o hyd i ddarnau anghyfarwydd o god yn rhan allweddol o godio, ond gall hynny fod yn frawychus i ddysgwyr. Roedd gan ChatGPT y potensial i weithredu fel cynorthwyydd codio personol, gan arwain y myfyrwyr trwy'r heriau hyn a chynnig mewnwelediad i sut y gallent fynd i'r afael â phroblemau anghyfarwydd. Drwy integreiddio ChatGPT yn rhan o sesiynau cyfrifiadurol ymarferol, roeddwn yn gobeithio meithrin eu hyder wrth fynd i'r afael â thasgau anghyfarwydd, gan wybod bod ganddynt 'diwtor personol' i’w helpu os byddai rhywbeth yn achosi trafferth iddynt.
Yn gyffredinol, fe wnaeth defnyddio ChatGPT helpu i symud ymlaen tuag at y nod hwnnw. Roedd gallu'r offer i roi adborth ar unwaith, awgrymu dulliau amgen o fynd o’i chwmpas hi, ac esbonio cysyniadau mewn termau syml yn ei wneud yn adnodd defnyddiol ar gyfer hyrwyddo dysgu annibynnol. Nid yw un sesiwn yn mynd i droi pob un o’r myfyrwyr yn godwyr annibynnol hyderus ar amrantiad, ond yn sicr roedd yn gam i’r cyfeiriad cywir i lawer ohonyn nhw.
I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offer/adnodd?
Defnyddiais ChatGPT mewn sesiwn gyfrifiadurol ymarferol i fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf a oedd yn dod o nifer o raglenni gradd gwyddoniaeth ac sy’n dysgu codio yn defnyddio R. Yn y sesiwn honno, cafodd y myfyrwyr y dasg o gwblhau sawl her codio nad oeddent wedi eu hwynebu o’r blaen. Roedd yr heriau’n cynnwys creu a fformatio plotiau o ansawdd uchel a chynnal profion ystadegol anghyfarwydd. Y nod oedd efelychu senarios datrys problemau yn y byd go iawn, lle na fyddai ganddynt o reidrwydd brofiad o ddefnyddio'r union god yr oeddent ei angen, a lle roedd yn rhaid iddynt ddatrys negeseuon gwall ar eu pen eu hunain.
Cafodd y myfyrwyr eu hannog i ddefnyddio ChatGPT i'w helpu i lywio'r heriau hyn. Gofynnwyd iddynt fewnbynnu eu cwestiynau, arbrofi gyda phromptiau, a chopïo-gludo negeseuon gwall i gael cyngor gan yr offer o ran sut i ddatrys y broblem. Roedd arddangoswyr yn bresennol i gefnogi'r myfyrwyr, ond cafodd yr arddangoswyr eu briffio i osgoi darparu atebion uniongyrchol na darparu cod, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar hyfforddi’r myfyrwyr yn defnyddio strategaethau datrys problemau - megis sut i fireinio eu promptiau i ChatGPT a deall yn well yr allbwn yr oeddent yn ei gael.
Mae ChatGPT ei hun yn declyn greddfol iawn i'w ddefnyddio. Mae’r fformat sgwrsio yn golygu ei bod yn hawdd i fyfyrwyr ymgysylltu â’r teclyn, ac roedd yr adborth mewn amser real yn caniatáu profiad dysgu rhyngweithiol. Mae cromlin ddysgu o ran saernïo promptiau effeithiol, ond daeth y teclyn yn fodd effeithiol iddynt archwilio datrysiadau codio yn annibynnol.
Sut effeithiodd yr offer/adnodd ar eich addysgu?
Cafodd defnyddio ChatGPT effaith gadarnhaol ar fy addysgu, yn enwedig o ran sut yr ydw i’n ymdrin â darparu cefnogaeth i ddatrys problemau wrth godio. Mae fy null addysgu bob amser wedi troi o amgylch helpu myfyrwyr i ddysgu sut i ddatrys problemau, yn hytrach na dim ond rhoi'r atebion iddynt. Fodd bynnag, yn aml mae'n well gan fyfyrwyr gael ateb mwy uniongyrchol, a gall fod yn heriol taro'r cydbwysedd cywir rhwng rhoi arweiniad iddynt a meithrin eu hannibyniaeth, heb iddynt fynd i deimlo’n rhwystredig. Roedd ChatGPT yn cynnig tir canol - roedd yn caniatáu i fyfyrwyr ofyn am help heb ddibynnu'n llwyr ar yr arddangoswyr neu arnaf fi, gan fynd â nhw beth o’r ffordd at ddatrys problemau ar eu pen eu hunain.
Pa mor dda y perfformiodd yr offer/adnodd: A fyddech chi'n ei argymell?
Roedd ChatGPT yn darparu haen ychwanegol o gymorth i fyfyrwyr a oedd yn ategu'r addysgu y maent wedi ei gael yn yr ystafell ddosbarth. Un fantais allweddol yw bod modd iddyn nhw gael mynediad at y cymorth hwn unrhyw bryd y tu allan i'r ystafell ddosbarth hefyd, a chael ymateb ar unwaith. Byddwn yn argymell hwn fel offeryn i gefnogi myfyrwyr gyda'u codio - yn enwedig myfyrwyr y gwyddorau naturiol sy'n defnyddio cod cymharol syml y gall ChatGPT ymdrin ag ef yn dda iawn.
Sut groeso gafodd yr offer /adnodd gan y myfyrwyr?
Yn gyffredinol, roedd y myfyrwyr yn bles iawn â pha mor ddefnyddiol y gall ChatGPT fod. Wrth gynnal y sesiwn hon yn y gorffennol dim ond cyfeirio myfyrwyr at 'Google' fyddwn i, er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i ryw ddarn o god ar-lein y gallant ei addasu i ddiwallu eu hanghenion. Yn fy marn i roedd y myfyrwyr ar y cyfan yn cael hynny’n waith eithaf anodd, ac roedd angen tipyn o gymorth arnynt i wneud hynny. Gyda ChatGPT, gellir teilwra'r ymatebion a gânt i'w set ddata a'u cod, sy'n gwneud popeth yn haws. Doedd gan y myfyrwyr yn y sesiwn hon mae’n debyg ddim profiad o chwilio ar Google am negeseuon gwall er mwyn gallu cymharu cymaint haws ydy defnyddio ChatGPT, ond o safbwynt y darlithydd a’r arddangoswr, roedd yn amlwg fod gwneud hyn fel hyn yn llawer llai rhwystredig iddyn nhw!
Roedd rhai myfyrwyr yn amharod i ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan fynegi bod ganddynt bryderon moesegol am y peth. Lleiafrif oeddent, ond bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r ddadl ynghylch deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn datblygu yn hyn o beth.
Rhannwch 'Awgrym Da' i gydweithiwr sy'n newydd i'r offer/adnodd
Pe bai’n rhaid i mi roi awgrym da o ran defnyddio ChatGPT wrth addysgu codio, yr awgrym hwnnw fyddai bod angen addysgu myfyrwyr sut i ofyn cwestiynau effeithiol a mireinio eu promptiau, er mwyn cael atebion sydd wedi'u teilwra'n benodol i'w data a'u cod nhw. Dylech eu hannog i feddwl am ChatGPT fel cynnal sgwrs yn hytrach na fel ymholiad un waith yn unig; atgoffwch nhw efallai na fydd eu prompt cychwynnol yn rhoi’r ateb perffaith, ac mae hynny’n iawn—mae’n rhan o’r broses datrys problemau i roi cynnig arall arni ac archwilio gwahanol ffyrdd o fframio’r cwestiwn.
Cyswllt am ragor o wybodaeth:
Dr Jenny Shepperson j.shepperson@bangor.ac.uk