Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offer/adnodd hwn?
Mae’r platfform meddalwedd hwn yn rhywbeth y mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cyfeirio myfyrwyr yn rheolaidd ato i’w ddefnyddio. Trwy ddefnyddio’r teclyn hwn mewn lleoliad ysgol academaidd roedd y myfyrwyr yn cael derbyn adborth ar eu CV yn ystod y sesiwn, ac roedd yn ei dro yn eu helpu i ddatblygu eu proffil ar LinkedIn. Mewn sesiwn gyda 50 o fyfyrwyr, doedd dim modd rhoi adborth unigol i bawb ar eu CV, felly roedd defnyddio’r adnodd hwn yn galluogi’r holl fyfyrwyr i gael adborth ac yn golygu y gallai’r staff dreulio eu hamser yn addasu profiadau gwaith o’r CV i’r proffil LinkedIn.
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio’r offer/adnodd hwn?
Y nod wrth ddefnyddio’r teclyn hwn oedd grymuso myfyrwyr i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn modd cyfrifol i gael adborth ar eu CV. Yn benodol, y nod oedd rhoi amser a gofod i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â’r platfform fel eu bod yn hyderus yn ei ddefnyddio rywdro eto.
I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offer/adnodd?
Defnyddiwyd y teclyn hwn fel rhan o weithdy lle gofynnwyd i fyfyrwyr ddatblygu neu greu proffil LinkedIn. Roedd gan gyfran fawr o'r myfyrwyr CV ac felly roedd angen iddynt drosi'r wybodaeth honno i fod yn addas i blatfform LinkedIn. Roedd cael adborth ar eu CV yn helpu’r myfyrwyr i sicrhau bod y wybodaeth ar LinkedIn yn briodol ac yn dangos sgiliau, profiadau a chymwysterau’r unigolyn.
Roedd y teclyn yn hawdd i fyfyrwyr ei ddefnyddio gan eu bod yn defnyddio eu henw defnyddiwr yn y brifysgol i fewngofnodi.
Sut effeithiodd yr offer/adnodd ar eich addysgu?
Cymerodd y myfyrwyr berchnogaeth dros eu datblygiad eu hunain sydd yn beth cadarnhaol iawn. Roedd y myfyrwyr yn teimlo'n fwy hyderus ynghylch gweithio ar eu proffil ar-lein ar ôl iddynt drosi eu profiadau oddi ar eu CV.
Gall y teclyn hwn gefnogi myfyrwyr yn y dyfodol wrth iddynt wneud cais am gyfle lleoliad a gwneud cais am waith cyflogedig. Trwy ymgorffori hyn yn rhan o dasg ymarferol, mae’r myfyrwyr wedi ymgyfarwyddo â’r teclyn, gan olygu y byddant yn teimlo y gallant fynd yn ôl i'w ddefnyddio ar eu liwt eu hunain.
Helo Beth! Roedd eich sgwrs am LinkedIn yn addysgiadol iawn - do’n i ddim yn sylweddoli pa mor bwerus ydy o o’r blaen! Diolch!
Pa mor dda y perfformiodd yr offer/adnodd: A fyddech chi'n ei argymell?
Cafodd y teclyn adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr gan ei fod yn syml i'w ddefnyddio ac yn gyflym. Dylai fod gan gydweithwyr ddiddordeb yn y teclyn hwn gan y gall roi adborth cyflym, ac osgoi ailadrodd wrth drafod normau cyffredinol llunio CV. Mae hefyd yn gyfle i staff ymgorffori gweithgarwch cyflogadwyedd yn y cwricwlwm heb orfod cael eu 'hyfforddi' i roi adborth.
Er bod nodiadau atgoffa wedi'u hanfon at y myfyrwyr yn dweud wrthynt am ddod â gliniadur i'r sesiwn, nid oedd y teclyn mor effeithiol o’i ddefnyddio ar ddyfais llechen (adborth gan fyfyrwyr oedd hyn) gan fod hynny’n cyfyngu ar ba mor effeithiol ydyw.
Sut groeso gafodd yr offer /adnodd gan y myfyrwyr?
Dywedodd y myfyrwyr a ddefnyddiodd y teclyn eu bod yn hoffi’r ffaith y gallent ei ddefnyddio ar eu liwt eu hunain a gwneud newidiadau cyn dangos eu CV i unrhyw un. Roedd rhai myfyrwyr yn cydnabod bod eu CV wedi dyddio ac y byddent wedi teimlo embaras yn ei ddangos i rywun i gael adborth. Yn dilyn y sesiwn, bu i’r myfyrwyr barhau i ddefnyddio'r teclyn i'w cefnogi i wneud cais am leoliadau gwaith trwy'r teclyn sy’n rhoi adborth ynghylch llythyrau eglurhaol, gan adeiladu a y defnydd blaenorol a wnaethant ohono wrth lunio CV.
Rhannwch 'Awgrym Da' i gydweithiwr sy'n newydd i'r offer/adnodd
Ymgorffori’r teclyn hwn i’w ddefnyddio fel rhan o weithgaredd perthnasol fel y gall myfyrwyr weld gwerth a budd go iawn y teclyn iddyn nhw.
Sut y byddwn yn crynhoi'r profiad mewn 3 gair?
Gwerth chweil, ymarferol, pwrpasol
Deunyddiau darllen a argymhellir:
Mae’r teclyn ar gael yma: https://careerset.com/bangor
Mwy o wybodaeth: https://my.bangor.ac.uk/employability-info/cv-resources.php.en
Cyswllt am ragor o wybodaeth:
Dr Beth Edwards: b.a.edwards@bangor.ac.uk
Mae yna llawer o adnoddau a theclynnau cyflogadwyedd digidol y gallech eu cyflwyno yn eich sesiynau. Byddai'r Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn hapus i drafod eich gofynion a gwneud awgrymiadau.
Manylion cyswll: careers@bangor.ac.uk