Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offer/adnodd hwn?
Mae mwy na hanner ein myfyrwyr ôl-radd hyfforddedig yn astudio gyda ni ar sail rhan amser ac yn dysgu o bell, felly rydym bob amser yn chwilio am offer ac adnoddau i'w hysgogi a chadw eu diddordeb pan na allant ymuno â sesiynau sy’n cael eu ffrydio’n fyw. Rydym hefyd yn tynnu ar yr amrywiaeth eang o gefndiroedd ac arbenigedd ymysg ein myfyrwyr ac yn chwilio am ffyrdd iddynt ddysgu gyda'i gilydd ac oddi wrth ei gilydd. Mae fforymau trafod yn caniatáu iddynt gyfrannu pan fydd yn gweithio i’w cylchfa amser neu ar ôl oriau gwaith. Mae'r adnodd yn gwella cyswllt uniongyrchol rhwng myfyrwyr, gan greu grŵp mwy cydlynol. Roeddem yn wreiddiol yn defnyddio'r adnodd mewn modiwlau a oedd yn cael eu dysgu o bell yn unig, ac roedd yn ffordd wych o ymgysylltu’n achlysurol â'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau ac mewn modd ffurfiannol. Fodd bynnag, ers rhai blynyddoedd rydym wedi newid i fodd crynodol, gan wneud ymgysylltu a chymryd rhan y prif nod. Nid oes rhaid i’w cyfraniadau fod wedi eu saernïo'n berffaith, rydym eisiau iddynt ymgysylltu â'r pwnc mewn ffordd ysgafn a hwyliog.
Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio’r offer/adnodd hwn?
Mae'r adnodd yn cyflawni dau o'n nodau. Yn gyntaf, mae'n caniatáu i fyfyrwyr sy’n dysgu o bell fod yn rhan o'r ystafell ddosbarth. Os na allwch fynychu'n fyw, a dim ond dal i fyny â recordiadau, ni chewch byth y cyfle i ofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth. Yn y llwyfan ar-lein mae pob myfyriwr yn cael yr un cyfleoedd, gallant gyfrannu pryd bynnag y bydd amser yn caniatáu, ac mae'n gweithio'n dda gyda'r myfyrwyr llawn amser ar y campws hefyd. Yr ail nod oedd cael gwell ymgysylltiad gan fyfyrwyr â'r deunyddiau, yn hytrach na’u bod ond yn edrych arnynt yn agos at ddyddiad cyflwyno traethawd mawr am bwnc penodol. Mae'r fforwm trafod wythnosol yn eu gorfodi i ymgysylltu â'r deunyddiau trwy gydol y modiwl, hyd yn oed wrth drafod pynciau a allai fod yn llai diddorol iddynt i ddechrau.
I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offer/adnodd?
Mae fforymau trafod wythnosol yn caniatáu i'r myfyrwyr ymgysylltu â phob agwedd ar y modiwl. Mae'n hawdd ei osod a gallwch atodi cynllun marcio, gan wneud y gwaith marcio'n hawdd ac yn syml. Yr unig her rwyf wedi dod ar ei thraws yw y gall fod braidd yn lletchwith i’w ddefnyddio wrth i'r myfyrwyr greu edefynnau gwahanol ac mae negeseuon newydd yn ymddangos ar y brig. Felly yn wrthreddfol mae'n rhaid i chi eu darllen o'r gwaelod i'r brig.
Sut effeithiodd yr offer/adnodd ar eich addysgu?
Mae'r fforymau trafod yn caniatáu archwilio’r pwnc yn llawer mwy manwl na ellir ei wneud mewn darlith neu seminar sydd wedi eu hamserlennu. Gall myfyrwyr adfyfyrio am y ddarlith a gwneud gwaith darllen dilynol, sy'n caniatáu iddynt gadarnhau eu gwybodaeth am y pwnc yn well. Mae caniatáu i'r drafodaeth fynd i wahanol gyfeiriadau hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddilyn eu diddordebau eu hunain. Yn gyffredinol, cafwyd adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr. Er y gallant gwyno yn ystod y modiwl, maent i gyd yn sylweddoli bod y gweithgaredd wedi eu helpu i gadw i fyny â'u gwaith darllen ac ymgysylltu â'r pwnc yn fwy nag y byddent fel arall. Fel y dangoswyd mewn gwerthusiadau modiwl:
Mae’r byrddau trafod yn llwyfan ardderchog ac yn annog dysgu gwreiddiol sy’n ysgogi’n ddeallusol.
Pa mor dda y perfformiodd yr offer/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?
Mae'r adnodd yn gweithio'n ardderchog ar gyfer y dibenion yr oeddem yn eu bwriadu, ar wahân i'r ffordd letchwith weithiau o ddilyn y gwahanol edefynnau. Mae'r adnodd yn ennyn diddordeb y myfyrwyr trwy gydol y modiwl ac yn eu gorfodi i ddarllen am y pwnc mewn ffordd strwythuredig ac mewn tameidiau bychain, gan leihau'r risg o ohirio gwaith.
Sut groeso gafodd yr offer /adnodd gan y myfyrwyr?
Mae rhai myfyrwyr yn ymgysylltu ar unwaith ac yn deall y cyfleoedd y mae'r adnodd yn eu darparu. Efallai y bydd angen rhywfaint o amser ychwanegol ar eraill i baratoi ar gyfer yr aseiniad a deall yr hyn a ddisgwylir. Efallai na fyddant wedi arfer â'r arddull dysgu, sy'n eu hannog i rannu eu barn a'u profiadau. Efallai y byddant yn ateb y cwestiwn a ofynnwyd yn wreiddiol yn unig, a dylid defnyddio hynny fel sbardun ar gyfer trafodaeth. Yn ystod y modiwl, efallai y bydd myfyrwyr yn teimlo na allant ddal i fyny, ond wrth werthuso'r modiwl dywedant eu bod yn cydnabod ei werth a faint yn fwy a gawsant o'r modiwl yn gyffredinol:
Er y gallai’r fforymau trafod fod yn dipyn o her weithiau, roedden nhw *yn* ddefnyddiol o ran fy ngwthio i ddarllen yn ehangach nag y byddwn i wedi gwneud fel arall, a chefais y cyfle i ddod i gysylltiad â gwahanol safbwyntiau a deunyddiau darllen a rannwyd gan fyfyrwyr eraill.
Rhannwch 'Awgrym Da' i gydweithiwr sy'n newydd i'r offer/adnodd
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y drafodaeth tra bydd yn mynd rhagddi, mae hyn yn caniatáu i chi roi adborth yn anffurfiol. Gallwch wneud hynny mewn sesiwn yn yr ystafell ddosbarth, neu yn rhan o’r drafodaeth os bydd eich amser yn caniatáu.
Sut y byddwn yn crynhoi'r profiad mewn 3 gair?
Ymgysylltu cyson â modiwlau
Deunyddiau darllen a argymhellir:
Byrddau Trafod Blackboard: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Ultra/Interact/Discussions
Cyswllt am ragor o wybodaeth:
Dr Eefke Mollee: e.mollee@bangor.ac.uk
Tîm Cefnogi Dysgu ac Addysgu: helpdesk@bangor.ac.uk