Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offeryn/adnodd hwnnw?
Mae seminarau Archaeoleg a Threftadaeth yn aml yn dibynnu ar adroddiadau safle, delweddau 2D a disgrifiadau ysgrifenedig yn sail i ddealltwriaeth y myfyrwyr o dirwedd, arteffactau ac adeiladau hanesyddol. Bu teithiau maes yn ddull gwell o lawer o feithrin dealltwriaeth y myfyrwyr o safleoedd ac arteffactau, a chynnig profiad diriaethol ac ymdrochol (Jones ac Washko, 2021). Fodd bynnag, nid yw bob amser yn ymarferol trefnu teithiau maes, yn enwedig i fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau o ran hygyrchedd, ac o ran y cyfyngiadau ar gyllidebau prifysgolion a’r staff sydd ar gael. Cefais fy ysgogi i gynnig profiad mwy ymdrochol i fyfyrwyr o fewn amgylchedd y seminar, i ddod ag adnoddau hanesyddol i mewn i'r oes fodern ac ailennyn brwdfrydedd y myfyrwyr o ran astudio safleoedd ac arteffactau neilltuol y tu hwnt i ddarllen adroddiadau safle hynafol a diflas.
I ba ddiben wnaethoch chi ddefnyddio'r offeryn/adnodd?
Er mwyn sicrhau profiad ymdrochol, mi wnes i droi at glustffonau rhithrealiti. Amcan dysgu’r seminar oedd cymell y myfyrwyr i drafod y gwahaniaethau cyllidol yn rhai o gestyll canoloesol Cymru fel rhan o’r modiwl Cyflwyniad i Dreftadaeth a chreu trafodaeth ehangach ynglŷn â dyrannu arian cadwraeth, hyrwyddo a gwella hygyrchedd cestyll y Sais yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru, megis castell Harlech, o'i gymharu â rhai'r tywysogion Cymreig megis Castell y Bere. Ymwelodd y myfyrwyr â’r cestyll gan ddefnyddio clustffonau rhithrealiti yn yr ystafell seminar, a oedd yn brofiad ymdrochol cyflawn a’u gosododd o fewn muriau’r castell heb y rhwystrau hygyrchedd sy’n ymwneud â mynediad, amser a chyllid a fyddai’n codi ar deithiau maes.
Sut effeithiodd yr offeryn/adnodd ar eich addysgu?
Roedd trafodaethau’r dosbarth yn fwy bywiog o lawer na’r seminarau blaenorol a oedd yn dibynnu ar ddelweddau a disgrifiadau ysgrifenedig yn unig. Enynnodd ddiddordeb y myfyrwyr, ac arweiniodd at drafodaeth fwy trafodol. Ysgogodd y myfyrwyr i ddangos y sgiliau meddwl uwch a nodir yn nhacsonomeg dadansoddi Blooms, meddwl yn feirniadol ac i greu yn y pen draw trwy archwilio atebion posibl i’r problemau a nodwyd ganddynt (Bloom et al., 1956).
Pa mor dda y perfformiodd yr offeryn/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?
Bu’r clustffonau rhithrealit’n llwyddiant ysgubol. Roeddent yn boblogaidd gyda’r myfyrwyr a nododd llawer ohonynt fod y seminar yn un o uchafbwyntiau arbennig y cwrs ar ffurflen werthuso’r modiwl. Roedd angen cynllunio o ran y dechnoleg a chydweithrediad yr adran Technoleg Gwybodaeth, er enghraifft cael gwared ar y mur gwarchod ffrydio er mwyn i fyfyrwyr eraill allu gweld yr hyn oedd y defnyddiwr yn ei brofi. Roedd rhai rhwystrau annisgwyl hefyd o ran defnyddio’r clustffonau, er enghraifft tynnodd rhai myfyrwyr sylw at y ffaith bod y clustffonau’n anghyfforddus i rai sy’n gwisgo sbectol, a dywedodd rhai’n anecdotaidd fod rhithrealiti wedi achosi meigryn yn eu defnydd personol (cyn eu defnyddio yn y seminar). Roedd y myfyrwyr hynny a oedd yn wynebu rhwystrau o ran gwisgo'r clustffonau’n cymryd rhan yn y seminar er hynny trwy wylio ffrydio byw defnyddwyr eraill a chyfrannu eu barn ynghylch y cwestiwn ymchwil yn gyfartal â'r rhai a oedd yn y gofod rhithrealiti.
Rhannwch 'Awgrym Da' ar gyfer cydweithiwr sy'n newydd i'r offeryn/adnodd
Fy awgrym innau ynghylch clustffonau rhithrealiti yw ymgyfarwyddo â'r clustffonau a'u meddalwedd cyn eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth a sicrhau bod yr ystafell rydych chi'n gweithio ynddi wedi'i gosod yn briodol, o ran y lle a'r dechnoleg angenrheidiol.
Sut fyddech chi'n crynhoi'r profiad mewn 3 gair?
Bachog, Cyffrous ac Ysgogol
Cyfeiriadau:
Bloom, B. S, & Krathwohl, D. (1956). Taxonomy of Educational Objectives: The Classification of Educational Goals, Volume 1.
Jones, J. C., & Washko, S. (2021). More than fun in the sun: The pedagogy of field trips improves student learning in higher education. Journal of Geoscience Education, 70(3), 292–305.
www.CADW.com
Contact for more information:
Dr Leona Huey : L.Huey@Bangor.ac.uk