Rhithrealiti yn y Maes: Gwella Dysgu trwy Brofiad gyda Thechnoleg

Beth wnaeth eich ysbrydoli neu eich ysgogi i ddefnyddio'r offeryn/adnodd hwnnw?

Mae ein defnydd o dechnoleg rhithrealiti i gefnogi dysgu yn deillio o ddatblygiadau arloesol a oedd yn angenrheidiol yn sgil pandemig Covid-19, a’r cyfyngiadau dilynol a roddwyd ar deithio, lle defnyddiwyd y dechnoleg i archwilio cyrchfannau rhyngwladol. Dyna pryd y datblygwyd yr arfer dda yma, a datblygwyd llwyddiant y ffordd yma o weithio maes o law yn gais am gyllid mewnol gan Gronfa Datblygu Menter Prifysgol Bangor er mwyn caniatáu ymchwilio parhaus i ffyrdd o ddefnyddio rhithrealiti i hwyluso cyfleoedd gwaith maes mwy cynhwysol. Fe wnaethom ni archwilio gwahanol feddalwedd i’n helpu i ddarparu teithiau rhithwir a chanfod mai ThingLink oedd y mwyaf cost-effeithiol a hawdd ei ddefnyddio. 

Beth oedd eich nod wrth ddefnyddio’r offeryn/adnodd hwn?

Mae rithrealiti yn fodd o ategu’r broses o baratoi at waith maes (Bos et al., 2021) lle gall y dechnoleg gynorthwyo i ddatblygu sgiliau dadansoddol beirniadol drwy gynrychioli pobl, lleoedd a thirweddau. At hyn, gall gynnig hefyd gyfleoedd pwysig i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ymarferol unigryw y gellir eu cymhwyso i geoddelweddu data ac amgylcheddau gan wella rhagolygon gyrfa graddedigion. 

Ein nodau wrth ddatblygu’r fenter hon oedd:

  • Darparu cyfle i ddatblygu amgylcheddau newydd gan ddefnyddio adnoddau a ddatblygwyd gan eraill. 
  • Digideiddio gweithgareddau gwaith maes i greu cronfa adnoddau ar gyfer myfyrwyr y presennol a'r dyfodol.
  • Archwilio sut y gellir defnyddio rhithrealiti hefyd i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau myfyrwyr ymhellach.

Sut effeithiodd yr offeryn/adnodd ar eich addysgu?

Mae’r fenter wedi ein galluogi i archwilio’r llu o ffyrdd creadigol y mae rhithrealiti yn galluogi myfyrwyr daearyddiaeth a’r amgylchedd i ddatblygu eu cymwyseddau, megis: 

  • Adnabod Cyfleoedd  – trwy brofi gwahanol amgylcheddau a chydnabod heriau rhanbarthol a chyfleoedd i greu gwerth. Enghraifft: Gweld fideos rhithrealiti ar YouTube a luniwyd gan wahanol grewyr cynnwys yn seiliedig ar ranbarthau penodol er mwyn dadansoddi’r ffyrdd y portreadir mannau a lleoedd.
  • Creadigrwydd – trwy archwilio ffyrdd amrywiol o ddysgu a datblygu adnoddau. Enghraifft: Anogir myfyrwyr i fod yn flaengar ac eangfrydig o ran eu ffordd o weithio, sut y gellir defnyddio’r dechnoleg yn y maes, ac o ran gyrfa bosibl wedi graddio. Gellir trafod swyddogaeth technoleg ddigidol e.e., arloesi aflonyddgar fel rhithrealiti, sydd wedi newid y ffordd y gallwn gyflawni gwaith maes. 
  • Meddwl cynaliadwy  – rhithrealiti fel dewis arall sy’n fwy sensitif i garbon yn lle gwaith maes (gweler Schott, 2017). Enghraifft: Mae defnyddio clustffonau rhithrealiti yn creu trafodaeth ynghylch defnyddio carbon wrth deithio, gwerthoedd moesegol, gwrthbwyso carbon, ac ati. 
  • Ymdopi ag Ansicrwydd, Amwyster a Risg  – defnyddir y feddalwedd cyn teithiau maes i helpu paratoi myfyrwyr ar gyfer profiadau newydd, ond yn benodol i reoli risgiau wrth ymweld â meysydd newydd/peryglus. 
    Enghraifft: Mae'n helpu myfyrwyr i ddeall rhai o'r lleoliadau anghysbell yr ymwelir â nhw. Gall myfyrwyr baratoi asesiadau risg yn seiliedig ar eu harsylwadau, a fydd yn rhoi cipolwg ar strategaethau rheoli risg. 
  • Cymhwysedd: dysgu trwy brofiad  – Dylid annog myfyrwyr i fyfyrio ar y deunydd; cynhyrchu cynnwys, a goblygiadau dosbarthu. Mae hyn yn meithrin trafodaeth feirniadol ar werth cynnwys rhithrealiti i roi sylw i ddigwyddiadau (e.e. llifogydd) a'r strategaethau rheoli posibl dilynol.

Pa mor dda oedd yr offeryn/adnodd. A fyddech chi'n ei argymell?

Yn gyffredinol, fe gawsom ni adborth cadarnhaol iawn gan staff a myfyrwyr, ond mae rhai pethau pwysig i’w cofio: 

  • Nid yw at ddant pawb! Mae'n bwysig mynd ati’n ara deg i weld a oes archwaeth a bod diddordeb yn yr adran i’w ddefnyddio. 
  • Dylai'r mentrau ategu'r ffordd rydych chi’n dysgu, yn hytrach na chreu gwrthdaro neu amharu ar yr hyn a gynigir ar hyn o bryd. 
  • Does dim rhaid i chi ailddyfeisio'r olwyn – mae yna ffynonellau a deunydd eisoes ar gael yn enwedig ym maes daearyddiaeth. 
  • Nid oes rhaid i fuddsoddiad fod yn gostus nac yn feichus o ran amser, yn enwedig yn y lle cyntaf, pan fyddwch chi'n cloriannu dewisiadau ac yn gweld faint o ddiddordeb sydd yna - dylech estyn allan a chydweithio! 

Pa mor dda gafodd yr offeryn/adnodd ei dderbyn gan fyfyrwyr?

Roedd cefnogaeth dda i’r fenter yn yr Ysgol ac yn Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol; roedd myfyrwyr hefyd yn cefnogi datblygiad y project a daethant i fwynhau’r profiad wrth iddyn nhw fagu hyder yn eu galluoedd. Anogwyd myfyrwyr i archwilio a dod o hyd i'w hadnoddau eu hunain i'w gweld gan ddefnyddio rhithrealiti (gydag arweiniad a goruchwyliaeth), a rannwyd wedyn gydag eraill yn y grŵp, i gynnull llyfrgell o adnoddau i’w rhannu. 

“Mae rhithrealiti yn ffordd newydd o ddysgu ac mae'n gwneud y daith rithwir yn rhyngweithiol ac yn ddifyr. Mae'n llawer o hwyl!” (Myfyriwr BSc Daearyddiaeth trydedd flwyddyn) 

Rhannwch 'Awgrym Da' ar gyfer cydweithiwr sy'n newydd i'r offeryn/adnodd

  • Mae grwpiau bach yn gweithio'n dda, o ran logisteg a rheoli'r grŵp. 
  • Mae'n bwysig cyfleu'r manteision i'r myfyrwyr a chaniatáu amser ar gyfer myfyrio strwythuredig. 

Sut fyddech chi'n crynhoi'r profiad mewn 3 gair?

Cyfleoedd dysgu gwerthfawr

Deunydd darllen a argymhellir:

EDI and fieldwork – Cultivate project and More Inclusive Fieldwork – Dr Lynda Yorke 
Cynhwysiant a hygyrchedd ym maes gwyddorau’r amgylchedd, a defnyddio technoleg rithwir i wella’r dysgu. 

Cyfeiriadau:

Bos, D., Miller, S. & Bull, E. 2022. Using virtual reality (VR) for teaching and learning in geography: Fieldwork, analytical skills, and employability. Journal of Geography in Higher Education46, pp. 479-488. DOI: 10.1080/03098265.2021.1901867. 
Schott, C. 2017. Virtual fieldtrips and climate change education for tourism students. Journal of Hospitality, Leisure, Sport & Tourism Education21, pp. 13-22. DOI: https://doi.org/10.1016/j.jhlste.2017.05.002.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth:

Rebecca Jones: rebecca.jones@bangor.ac.uk

Richard Dallison: r.dallison@bangor.ac.uk