Beth yw rhan CAFCASS mewn achosion plant.
Katie Crosland (Myfyriwr)
Beth yw CAFCASS a pham ei fod mor bwysig?
Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd, neu CAFCASS, yn gorff cyhoeddus annibynnol, sydd arwahân i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r llysoedd. Diben CAFCASS yw amddiffyn buddiannau plant sy'n ymwneud ag achosion plant a chynghori'r llysoedd ar fuddiannau a lles y plentyn. Yn aml bydd y llys yn gofyn am y gwasanaeth hwn pan fydd rhieni yn gwahanu ac ni allant ddod i drefniant ynghylch eu plant.
Beth mae CAFCASS yn ei wneud ar ôl ymgynghori â nhw?
Mae CAFCASS yn cynnal gwiriadau cychwynnol er mwyn diogelu plant, sy'n cynnwys cysylltu â phartïon sydd yn ymwneud a’r oedolion perthnasol a gofyn iddynt am bryderon ynghylch diogelu. Gall CAFCASS siarad â'r plant hefyd. Bydd CAFCASS hefyd yn chwilio cofnodion yr Heddlu a Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n ymwneud â'r partïon. Os nad yw'r gwiriadau hyn yn awgrymu unrhyw beth o bryder, efallai y bydd CAFCASS yn ceisio annog trefniant ynghylch y plant yn yr FHDRA (First Hearing Dispute Resolution Appointment). Fodd bynnag, os oes pryderon, efallai y gofynnir am adroddiad manylach ar ffurf Adroddiad Adran 7 (Section 7 report).
Adroddiad Adran 7 (Section 7 report)
Os nad yw’r materion wedi’u datrys yn y gwrandawiad cyntaf, neu os nad oedd y llythyr diogelu cychwynnol i’r llys yn foddhaol, bydd CAFCASS yn cynnal Adroddiad Adran 7. Yma, bydd swyddogion yn cyfarfod â'r plant a'r rhieni, ar wahân. Gallent hefyd estyn allan i ysgolion, aelodau eraill o'r teulu, ac yn y blaen, lle mae hun yn briodol. Mae dymuniadau’r plentyn neu’r plant yn bwysig, os ydynt yn ddigon hen, bydd CAFCASS yn cyfarfod â nhw mewn lleoliad niwtral fel nad oes unrhyw farn gan ofalwyr. Pan fydd Swyddog CAFCASS yn ysgrifennu’r adroddiad hwn, bydd yn cyfeirio at y ‘Rhestr Wirio Lles’ a geir yn Neddf Plant 1989. Mae’r Rhestr Wirio hon yn cynnwys yr ystyriaethau canlynol:
- Dymuniadau a theimladau'r plentyn dan sylw.
- Anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plentyn.
- Yr effaith debygol ar y plentyn pe bai amgylchiadau'n newid o ganlyniad i benderfyniad y llys.
- Oedran, rhyw, cefndir y plentyn ac unrhyw nodweddion eraill a fydd yn berthnasol i benderfyniad y llys.
- Unrhyw niwed y mae'r plentyn wedi'i ddioddef neu a allai fod mewn perygl o'i ddioddef.
- Gallu rhieni’r plentyn (neu unrhyw berson arall y mae’r llysoedd yn ei ystyried yn berthnasol) i ddiwallu angen y plentyn.
- Y pwerau sydd ar gael i'r llys yn yr achos a roddwyd.
Bydd y Llys a CAFCASS yn defnyddio’r rhestr wirio hon ac adroddiad Adran 7 fel canllaw i ddod i gasgliad ynghylch lles y plant. Bydd CAFCASS yn cynhyrchu’r adroddiad hwn, ac yn rhoi argymhellion i’r llys ar gyfer trefniant plentyn, er nad yw’r llys bob amser yn glynu’n gaeth at hyn, a bydd y Barnwr yn defnyddio barn ei hun.
Polisi newydd CAFCASS
Mae CAFCASS hefyd wedi cyhoeddi ei Bolisi Arfer Cam-drin Domestig yn ddiweddar. Mae'r polisi hwn yn ei gwneud yn ofynnol i CAFCASS rannu gwybodaeth a roddir gan oedolion a phlant ynghylch Cam-drin Domestig, a'r risg o Gam-drin Domestig yn y dyfodol gyda’r llys. Mewn perthynas â phlant, mae plentyn yn cael ei ystyried yn ddioddefwr cam-drin domestig o dan Ddeddf Cam-drin Ddomestig 2021 os yw’n gweld, yn clywed, neu’n profi effeithiau cam-drin domestig a’i fod yn perthyn i, neu’n derbyn gofal gan oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanynt.
Mae clinig gyfraith Prifysgol Bangor yn gallu cynghori ar faterion cyfreithiol teuluol, yn cynnwys gorchmynion plant ac ysgariad. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk.