Fy ngwlad:
Llun o lyfr a cwpan o de ar fwrdd gwyn

Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC)

Ar gyfer Cleientiaid

Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol ar y rhan fwyaf o feysydd sifil y gyfraith gan gynnwys cyfraith teulu, cyflogaeth, tai, materion eiddo, anafiadau personol a materion defnyddwyr. Nid ydym yn cynghori ar gyfraith droseddol, budd-daliadau lles na mewnfudo.

Caiff tîm bach o fyfyrwyr ymgynghorol eu cyfarwyddo gan gleientiaid trwy gyfweliad. Byddant wedyn yn gwneud gwaith ymchwil perthnasol ac yn darparu eu cyngor trwy lythyr ffurfiol o fewn pythefnos i'r apwyntiad cychwynnol. Cymeradwir yr holl gyngor gan gyfreithiwr cymwys sydd â thystysgrif ymarfer.

Caiff cleientiaid eu cyfweld gan ddau fyfyriwr (yng ngwmni eu goruchwyliwr). Ni roddir unrhyw gyngor ar y diwrnod. Bydd y myfyrwyr yn cymryd cyfarwyddiadau, yn gwneud gwaith ymchwil a darperir llythyr ffurfiol o gyngor i’r cleient o fewn 14 diwrnod i’r apwyntiad, unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo gan gyfreithiwr cymwys.

Mae myfyrwyr wedi'u hyfforddi'n ddwys mewn cyfrinachedd a diogelu data ac yn llofnodi contract myfyriwr ymgynghorol yn cytuno i gadw at ein gweithdrefnau llym.
Gellir cynnig y gwasanaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os hoffai cleientiaid i'r gwasanaeth gael ei gynnal yn Gymraeg, yna rhaid rhoi gwybod ymlaen llaw fel bod academyddion sy'n siarad Cymraeg ar gael ar ddiwrnod yr apwyntiad (yn ogystal â'r cyfreithiwr sy'n goruchwylio). Gall apwyntiadau fod wyneb yn wyneb, ym Mangor, neu ar-lein, trwy Microsoft Teams.

Mae ein clinig wedi’i yswirio’n llawn drwy yswirwyr y Brifysgol, a chawn ein rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Dim ond llythyr o gyngor y bydd y Clinig Cyfreithiol yn ei roi i gleientiaid ac ni all gynnig cynrychiolaeth yn y llys, drafftio dogfennau cyfreithiol na chysylltu â thrydydd parti. Nod y gwasanaeth yw grymuso cleientiaid fel eu bod yn teimlo y gallant ddelio â materion eu hunain. Os na all y Clinig Cyfreithiol helpu, yna efallai y gallwn gyfeirio cleientiaid at sefydliadau eraill a allai fynd â'r mater ymhellach.

Sylwch fod y gwasanaeth yn gweithredu yn ystod tymor y Brifysgol yn unig.

Os hoffech wneud apwyntiad, e-bostiwch bulac@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 388411. Sylwch nad oes neb ar gael ar y ffôn drwy'r amser felly gadewch neges gyda'ch enw a'ch rhif ffôn a bydd rhywun yn eich ffonio yn ôl cyn gynted â phosibl.

I Fyfyrwyr

Mae’r Clinig Cyfreithiol yn eiddgar i wahodd myfyrwyr i gychwyn ar brofiad dysgu cyfreithiol deinamig a dwys gyda'n cyfle unigryw i gymryd rhan mewn achosion 'go iawn' sy'n ymdrin ag amrywiol feysydd o angen cyfreithiol heb ei ddiwallu. Mae’r Clinig Cyfreithiol yn galluogi myfyrwyr i ymchwilio i broblemau gwirioneddol cleientiaid gan ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o heriau cyfreithiol amrywiol.

Cynigir y Cling Cyfreithiol fel modiwl dwy ran ym mlwyddyn olaf y radd yn y gyfraith. Mae dau fodiwl 20 credyd yn galluogi myfyrwyr i bontio'r bwlch rhwng theori ac ymarfer, gan gymhwyso eu gwybodaeth ddamcaniaethol o gyfraith sylwedd, gweithdrefnau cyfreithiol a sgiliau cysylltiedig mewn lleoliad ymarferol.

Bydd myfyrwyr yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau'r cyhoedd ar feysydd fel tai, cyfraith teulu, cyflogaeth a defnyddwyr dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i wella eu sgiliau ar gyfer ymarfer proffesiynol gan gynnwys sgiliau fel cyfweld cleientiaid, dadansoddi materion, ymchwil gyfreithiol ymarferol, drafftio cyfreithiol a marchnata. Caiff myfyrwyr hefyd eu hyfforddi i ddefnyddio system rheoli achosion bwrpasol sy'n adlewyrchu systemau a ddefnyddir mewn practis preifat. Bydd y modiwl hwn yn mireinio'r sgiliau hyn gan gyfrannu at gyflogadwyedd, yn enwedig yn y diwydiant gwasanaethau cyfreithiol.

Bydd myfyrwyr yn dysgu trwy gyfres o weithgareddau hyfforddi ac yna'n cyfweld a chynghori cleientiaid go iawn ynghylch materion cyfreithiol amrywiol dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys mewn amgylchedd anogol a chefnogol. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau i gyfweld a chynghori cleientiaid.

Cwrdd â’r Tîm