Canllaw i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain
Katie Crosland (Myfyrwraig)
Ymgyfreithiwr drostynt eu hunain yw rhywun nad yw'n cael ei gynrychioli yn y llys gan gyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Gall ymgyfreithiwr drostynt eu hunain dderbyn cyngor cyfreithiol am ddim gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, canolfan gyfraith neu sefydliad cyfreithiol pro bono fel Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor.
Trefn cyn dyddiad Llys
Fel ymgyfreithiwr drostynt eu hunain, fel arfer, bydd y llys yn gofyn i'r cyfreithiwr ar yr ochr arall ddelio â hyn er mwyn cyflymu'r broses. Lle bo'n bosibl, dylech gadw tystiolaeth ysgrifenedig o unrhyw gyfathrebu rhwng yr ochr arall a chi'ch hun. Dylech weithredu'n broffesiynol wrth siarad â chyfreithwyr yr ochr arall. Gall cyfreithwyr yr ochr arall egluro gweithdrefnau llys i chi ond ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi. Os ydynt yn defnyddio jargon cyfreithiol, peidiwch â theimlo cywilydd i ofyn iddynt ei egluro i chi.
Paratoi ar gyfer y Llys
Mae'n bwysig eich bod yn cyflwyno'ch hun yn broffesiynol pan fyddwch yn y llys. Os yw'r barnwr yn farnwr cylchdaith neu'n uwch, bydd angen i chi aros yn sefyll nes y rhoddir caniatâd i chi eistedd. Dylech sefyll pan fyddwch yn dymuno siarad ac aros nes bod y barnwr yn rhoi caniatâd i chi wneud hynny. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn gwisgo'n briodol, yn gwisgo siwt os oes gennych un, neu grys a throwsus neu sgert addas. Dylech hefyd ddod â beiro a phapur gyda chi i'r llys i wneud nodyn o unrhyw beth a ddywedir wrthych gan y parti arall neu ei gynrychiolydd cyfreithiol, neu unrhyw beth pwysig a ddywedir gan y barnwr.
Beth yw ffrind “McKenzie”?
Ffrind “McKenzie” yw unigolyn sydd yn mynychu’r llys hefo chi ac yn cynnig cymorth. Gallai hyn fod yn aelod o'r teulu, yn ffrind, neu'n gynorthwyydd gwirfoddol gan elusen. Gall ffrind McKenzie roi cefnogaeth emosiynol i chi, cymryd nodiadau, eich helpu gyda'ch papurau achos, neu roi cyngor i chi. Ni all y person hwn siarad ar eich rhan yn y llys na rheoli achosion y tu allan i'r llys. Os yw'r barnwr yn rhoi caniatâd, efallai y caniateir iddynt siarad. Os dymunwch, gallwch dalu am ffrind McKenzie. Er y bydd hyn yn debygol o fod yn rhatach na llogi cyfreithiwr, ni fyddant yn gallu gweithredu fel eich cynrychiolaeth gyfreithiol.
Beth sydd yn digwydd pan rwyf yn cyrraedd y Llys?
Pan fyddwch yn cyrraedd y llys, bydd yn rhaid i chi fynd drwy wiriadau diogelwch tebyg i ddiogelwch maes awyr. Yna bydd angen i chi chwilio am y Rhestr Llys. Pan fyddwch wedi dod o hyd i'r Rhestr Llys, mae angen i chi chwilio am eich rhif achos neu eich enw. Os na allwch ddod o hyd i'ch achos, gallwch ofyn am help gan staff. Pan fyddwch yn darganfod pa ystafell llys a pha farnwr sy'n cael ei neilltuo i'ch achos, bydd angen i chi wirio wrth ddesg y Tywysydd. Yna bydd angen i chi roi gwybod iddynt eich bod yn ymgyfreithiwr dros eich hunain.
Unwaith y byddwch wedi cael eich gwirio, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am beth amser gan fod y llysoedd yn cael llawer o sesiynau o fewn cyfnod penodol. Wrth aros, mae'n debygol y bydd cynrychiolaeth gyfreithiol o'r ochr arall yn cysylltu â chi. Byddant yn cyflwyno eu hunain i chi ac yn gwneud rhai cynigion ynglŷn â'ch achos. Dylech wrando a chymryd nodiadau o'r rhain, ac yna meddwl y rhain drosodd. Os nad ydych am dderbyn y cynnig ac nad ydych yn dymuno trafod gyda nhw, dylech roi gwybod i'r parti arall neu ei gyfreithiwr.
Pan fyddwch yn cael eich galw i ymddangos gerbron y barnwr, bydd angen i chi ddiffodd eich ffôn symudol. Yna bydd y barnwr yn gofyn cwestiynau neu'n gofyn i un o'r partïon siarad yn dibynnu ar ba fath o wrandawiad rydych chi'n ei fynychu.
Efallai y bydd y llys yn eich asesu i sicrhau eich bod yn gallu cynrychioli eich hun. Os oes ganddynt bryderon am eich gallu, efallai y byddant yn ymgynghori â'ch meddyg teulu.
Gorchymyn Llys
Pan fydd y llys wedi dod i ben, gallant ofyn i'r parti sydd â chynrychiolaeth gyfreithiol lunio gorchymyn y llys. Pan wneir gorchymyn, mae angen i chi a'r ochr arall fod yn glir ynghylch yr hyn y mae'r gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i bawb ei wneud. Bydd cyfreithiwr yr ochr arall yn drafftio'r gorchymyn i'r barnwr ac yn anfon copi atoch fel y gallwch roi gwybod i'r barnwr os oes unrhyw rannau o'r gorchymyn yr ydych chi'n credu nad ydynt yn adlewyrchu'r hyn a benderfynodd y llys.
Cyflafareddu
Yn y rhan fwyaf o achosion llys, mae opsiwn i fynd i'r gyflafareddu. Dyma lle bydd cyflafareddwr annibynnol yn ceisio helpu'r ddwy ochr i gytuno ar setliad rhesymol rhyngddynt. Mewn achosion teuluol bydd y barnwr yn disgwyl i'r ddwy ochr fod wedi rhoi cynnig ar gyflafareddu cyn dod i'r llys. Gall y barnwr ohirio gwrandawiad (gohirio diwrnod arall) i roi cyfle i chi ystyried hyn.
Croesholiad
Mewn gwrandawiad terfynol, cewch holi'r parti sy'n gwrthwynebu am dystiolaeth. Efallai y bydd yr ochr arall hefyd yn eich croesholi ar dystiolaeth rydych wedi'i darparu i'r llysoedd. Byddwch yn barod ar gyfer unrhyw gwestiynau a ofynnir i chi.
Gall gwasnaethau fel SupportThroughCourt rhoi cymorth i chi i dderbyn y ffurflenni ac weithiau mynychu y llys hefo chi, er nad ydynt yn medru rhoi cyngor cyfreithiol.
Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim. Os hoffech apwyntiad, ffoniwch 01248 388411 neu e-bostiwch bulac@bangor.ac.uk.