Diogelu Eich Hawliau: Camau Cyfreithiol Hanfodol ar gyfer Cyplau Dibriod yn y DU
Tom Jarman (Myfyriwr)
Mae'n hollbwysig cael gwared o’r camsyniad bod parau di-briod sy'n byw gyda'i gilydd yn cael eu hystyried yn awtomatig i fod â “priodas cyfraith gyffredin”, sy'n rhoi'r un hawliau cyfreithiol iddynt â pharau priod.
Cyplau dibriod yw'r grŵp teulu sy'n tyfu cyflymaf yn y DU, sef tua 17% o'r holl deuluoedd. Mae hyn oherwydd y newidiadau mewn normau cymdeithasol a’r syniad “teulu traddodiadol” sydd wedi colli ei amlygrwydd.
Mae sawl rheswm pam bod cynnydd mewn cyplau di-briod, gan gynnwys y rhai sydd â gwrthwynebiad ideolegol i briodas, pragmatyddion sy’n optio allan oherwydd ystyriaethau cyfreithiol ac ariannol, rhamantwyr sy’n ystyried cyd-fyw fel carreg gamu tuag at briodas, a chyplau â safbwyntiau gwahanol ar briodas.
Oherwydd y duedd hon, mae'n hanfodol deall bod eich hawliau cyfreithiol yn y sefyllfaoedd hyn yn wahanol i rai parau priod. Bydd y wybodaeth hon yn eich grymuso ac yn sicrhau eich bod yn wybodus.
Beth yw cwpl sy'n cyd-fyw
Pâr o unigolion sy'n byw gyda'i gilydd mewn perthynas ramantus heb fod yn briod neu heb fod wedi ymrwymo i bartneriaeth sifil yw cwpl sy'n cyd-fyw. Gallant rannu cartref, cyllid, a chyfrifoldebau tebyg i bâr priod, ond nid oes ganddynt y statws cyfreithiol ffurfiol na’r gydnabyddiaeth mae priodas neu bartneriaeth sifil yn ei darparu.
Mae hyn yn golygu na allwch o reidrwydd hawlio buddiant mewn asedion yn enw eich partner (gan gynnwys y tŷ lle'r ydych yn byw) am hyd eich perthynas neu os oes gennych blant. Gall dderbyn cyngor cyfreithiol eich helpu gyda'r wybodaeth a rhoi arweiniad angenrheidiol i amddiffyn eich hawliau a rhoi tawelwch meddwl i chi.
Gall cydbreswylwyr fod o dan anfantais o’u cymharu â gwŷr/gwragedd gan na allant hawlio gorchmynion cynhaliaeth neu orchmynion addasu eiddo wrth wahanu. Nid oes ganddynt hawl awtomatig chwaith i unrhyw beth os bydd eu partner yn marw heb wneud ewyllys.
Sut i Amddiffyn Eich Hawliau
Datganiad Ymddiriedolaeth
Pan fyddwch yn prynu eiddo gyda’ch partner neu’n symud i eiddo y mae eisoes yn berchen arno, mae’n bwysig ystyried y canlynol:
- Pa gyfraniadau ariannol y mae pob un ohonoch yn eu gwneud i'r eiddo?
- Pwrpas prynu'r eiddo.
- Sut bydd yr elw o'r eiddo yn cael ei rannu pan gaiff ei werthu?
- Pa bryd y gwerthir yr eiddo.
Y ffordd orau ymlaen yw sicrhau bod yr eiddo yn cael ei roi mewn enwau ar y cyd. Os nad ydyw, yna efallai y bydd angen Datganiad Ymddiriedaeth ffurfiol arnoch i warchod eich buddiant. Peidiwch ag aros nes bod y berthynas yn chwalu.
Cytundebau Cyd-fyw
- Gall cyplau sy'n byw gyda'i gilydd greu cytundeb cyd-fyw i gwmpasu ystod ehangach o asedau, gan gynnwys eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd a threfniadau rhiant. Mae’r llysoedd yn cydnabod y cytundebau hyn fel cofnod o fwriadau pob parti yn y berthynas.
- Gall amddiffyn eich hawliau, fel eich pensiwn, yswiriant bywyd, eiddo, ac asedau eraill, rhag ofn y bydd perthynas yn chwalu neu farwolaeth.
- Argymhellir bod cyplau yn ymrwymo i gytundeb cyd-fyw pan fyddant yn dechrau byw gyda'i gilydd, megis wrth brynu tŷ, ond gellir ei ddrafftio ar unrhyw adeg.
Ysgrifennu Ewyllys
- Os nad ydych yn briod a'ch bod chi neu'ch partner yn marw heb ewyllys, ni fydd eich asedau'n mynd yn awtomatig i'ch partner fel y byddent ar gyfer parau priod. Mae ysgrifennu ewyllys i sicrhau bod eich cyfran o unrhyw eiddo neu asedau yn mynd i'r bobl rydych chi eu heisiau ar ôl i chi farw yn bwysig.
Mae clinig gyfraith Prifysgol Bangor yn gallu cynghori ar faterion cyfreithiol teuluol. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk.