Prynnu car ail law? Eich hawliau
Kay Hayes (Myfyriwr)
Mae'r hawliau a roddir i brynwyr ceir ail law yng Nghymru a Lloegr yn amrywio ac maent yn dibynnu gan bwy y prynoch y cerbyd gan. Mae mwy o hawliau ar gael i'r rhai sy'n prynu cerbydau gan fasnachwr ceir (deliwr) na phan fyddwch chi'n ei brynu gan unigolyn preifat.
Prynnu gan fasnachwr ceir
Tips defnyddiol
Pan fyddwch chi'n prynu cerbyd, hyd yn oed gan fasnachwr ceir, mae'n ddoeth sicrhau bod gan y masnachwr enw da, ffordd hawdd o wneud hyn fyddai gwirio am aelodaeth i gymdeithas fasnach (mae hyn yn dangos eu bod yn dilyn cod ymarfer yr Ombwdsmon Moduron). Fe'ch cynghorir hefyd i gynnal gwiriad hanes cerbyd a'ch bod yn cynnal archwiliad a gyriant prawf ar y cerbyd.
Beth os yw'r cerbyd yn ddiffygiol?
Pan fyddwch yn prynu cerbyd gan ddeliwr rydych wedi’ch diogelu o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mae’r ddeddf hon yn rhoi'r hawl tymor byr i chi gwrthod y cerbyd os yw o ansawdd anfoddhaol, yn anaddas i’r diben neu ddim fel y disgrifir. Mae’r hawl tymor byr hwn i wrthod y cerbyd yn caniatáu i chi hawlio ad-daliad llawn o fewn 30 diwrnod i’ch pryniant.
Os byddwch chi'n darganfod problem gyda'ch cerbyd ar ôl i'r cyfnod o 30 diwrnod ddod i ben, efallai y byddwch dal yn gallu cael wedi ei drwsio. Tybir bod unrhyw fater sy'n codi o fewn chwe mis i'w brynu wedi bodoli ar adeg y pryniant ac felly dylai'r gwerthwr trwsio'r nam os na all brofi nad oedd y mater yn bodoli ar y diwrnod prynu.
Beth os ydi’r problemau yn parhau?
Os nad yw’r gwerthwr yn gallu trwsio mater sy’n digwydd o fewn chwe mis cyntaf eich perchnogaeth, os yw’r un nam yn parhau, neu os bydd nam ar y cerbyd cafodd ei chyfnewid, gallwch ofyn am eich arian yn ôl neu ad-daliad rhannol am y cerbyd o hyd, hyd yn oed os rydych allan o'r cyfnod hawl i wrthod tymor byr o 30 diwrnod. Rhaid nodi fodd bynnag, gall y gwerthwr dynnu'r arian o ad-daliad os byddwch yn gwrthod y car ar ôl y cyfnod hawl i wrthod tymor byr oherwydd milltiredd a ychwanegwyd ar y car.
Beth sydd yn digwydd ar ôl 6 mis?
Os bydd nam yn digwydd fwy na 6 mis o'ch pryniant, mae gennych rai hawliau o hyd i drwsio'r cerbyd, fodd bynnag mae'r baich arnoch chi i brofi bod y mater yn bodoli ar adeg eich pryniant.
Prynnu gan werthwr preifat
Yn anffodus, pan fyddwch yn prynu cerbyd gan werthwr preifat, mae’r cysyniad ‘byddwch yn ofalus gan brynwr’ yn berthnasol sy’n golygu mai chi sy’n gyfrifol am archwilio’r cerbyd yn ddigonol cyn ei brynu. Yn y sefyllfa hon, mae'n well gyrru'r cerbyd ar brawf a mynd â rhywun sy'n gwybod am gerbydau gyda chi wrth wneud eich archwiliad.
Mae’n bosibl y bydd gennych rywfaint o hawl o hyd yn erbyn gwerthwr preifat os yw’n disgrifio’i nwyddau’n anghywir yn fwriadol, megis datgan bod y cerbyd newydd yn brecio pan oedd angen un arall yn ei le mewn gwirionedd, ond heblaw am hyn, mae eich hawliau’n gyfyngedig iawn.
Mae clinig gyfraith Prifysgol Bangor yn gallu cynghori ar faterion hawliau defnyddwyr fel prynnu cerbyd diffygiol. Os rydych eisiau gwneud apwyntiad i drafod hyn ymhellach, gallwch ein ffonio 01248 388 411 neu ein e-bostio bulac@bangor.ac.uk.