Trais yn y Cartref a Cystodaeth Plant
Lena Buffard (Myfyrwraig)
Wrth benderfynu achos ar gyswllt, mae Deddf Plant 1989 yn datgan bod lles y plentyn yn hollbwysig. Nid yw'r ffaith bod cam-drin domestig wedi digwydd yn golygu y gwrthodir cysylltiad â'r camdriniwr yn awtomatig.
Beth sydd yn cael ei ystyried fel “Trais yn y Cartref”?
Gall gynnwys:
- Cam-drin corfforol: unrhyw fath o ymosodiad corfforol.
- Cam-drin Emosiynol neu Seicolegol: bychanu, beirniadaeth, gwneud i rywun gwestiynu eu tawelwch meddwl.
- Cam-drin rhywiol: unrhyw weithgareddau rhywiol anghysyniol neu dan bwysau.
- Rheolaeth drwy orfodaeth: rheoli unrhyw agwedd ar fywyd (ynysu, rheolaeth ariannol, gorfodi dibyniaeth).
Beth fydd y llysoedd yn ystyried?
Gan fod lles y plentyn yn hollbwysig, bydd y llys yn ystyried y "rhestr wirio lles". Rhaid i rieni gofio y bydd y llys bob amser o'r farn, oni bai bod tystiolaeth i'r gwrthwyneb, ei bod er budd gorau'r plant i gael cysylltiad â'r ddau riant. Bydd y llys yn ystyried:
- Dymuniadau a theimladau'r plentyn (a ystyrir yng ngoleuni ei oedran a'i ddealltwriaeth). Po ieuengaf yw'r plentyn, y lleiaf y bydd y llys yn ystyried ei ddymuniadau.
- Eu hanghenion corfforol, emosiynol ac addysgol.
- Yr effaith debygol arnynt o unrhyw newid mewn amgylchiadau.
- Eu hoedran, rhyw, cefndir ac unrhyw nodweddion y mae'r llys yn eu hystyried yn berthnasol.
- Unrhyw niwed y maent wedi'i ddioddef neu mewn perygl o ddioddef. Bydd y ffaith bod cam-drin domestig wedi cael ei ystyried, ond ni fydd o reidrwydd yn golygu nad yw'r camdriniwr yn addas i gysylltu.
- Pa mor alluog yw pob rhiant o ddiwallu anghenion y plentyn.
Wrth ddelio â gorchmynion trefnu plant yng nghyd-destun cam-drin domestig, rhaid i'r llysoedd hefyd ystyried ymddygiad y ddau riant tuag at ei gilydd a'r plentyn, a'r effaith ar yr plentyn. Mae hyn yn cynnwys:
- Effaith y cam-drin domestig ar y plentyn a'i effaith ar berthynas y plentyn â'r rhieni;
- P'un a yw'r rhiant yn cael ei ysgogi gan awydd i hyrwyddo budd gorau'r plentyn neu'n defnyddio'r broses i barhau â math o gam-drin domestig yn erbyn y rhiant arall;
- Yr ymddygiad tebygol wrth ddod i gysylltiad â'r rhiant y gwneir canfyddiadau yn eu herbyn a'i effaith ar y plentyn; a
- Gallu'r rhieni i werthfawrogi effaith cam-drin domestig yn y gorffennol a'r potensial ar gyfer cam-drin domestig yn y dyfodol.
Bydd y llys ond yn lleihau'r cyswllt rhwng y plentyn a'r troseddwr os yw'n fodlon y gellir sicrhau diogelwch corfforol ac emosiynol y plentyn a'r rhiant y mae'r plentyn yn byw ag ef cyn, yn ystod ac ar ôl cysylltu.
Os oes gennych unrhyw faterion sy'n gysylltiedig â'r teulu, gallwch ofyn am gyngor am ddim yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC). Os hoffech drefnu apwyntiad gyda ni, ffoniwch 01248 388411, neu gallwch hefyd anfon e-bost atom: bulac@bangor.ac.uk