Pam dewis gradd Seicoleg drwy Clirio ym Mhrifysgol Bangor?
Mae amrywiaeth o resymau dros astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
- Byddwch yn dysgu am bwnc hynod ddiddorol gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf.
- Bydd cyfleoedd i gael profiadau ymarferol sy'n amrywio o ddyrannu'r ymennydd dynol i weithio gyda chyfleusterau uwch fel sganiwr MRI.
- Sicrwydd o lety i fyfyrwyr Clirio sy’n astudio yng nghampws Bangor.
- Mae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
- Rydym yn rhoi blaenoriaeth i ofalu am a chefnogi ein myfyrwyr.
- Aelodaeth am ddim o dros 150 o Glybiau a Chymdeithasau.
Pryd mae Clirio?
Mae Clirio yn cychwyn ar ddydd Mercher, 5 Gorffennaf 2024.
Pwy all wneud cais drwy Clirio?
Efallai byddwch yn cael eich ystyried fel rhywun sydd yn rhan o’r broses Clirio oherwydd un o’r rhesymau canlynol:
- ar ddiwrnod canlyniadau Lefel-A, nid ydych wedi cyflawni gofynion mynediad eich prifysgol sy’n ddewis cadarn gennych na’r brifysgol sy’n ddewis wrth gefn.
- ar ddiwrnod canlyniadau, rydych wedi cyflawni gofynion eich prifysgol sy’n ddewis cadarn gennych neu’r brifysgol sy’n ddewis wrth gefn ond rydych wedi newid eich meddwl ac eisiau mynd i brifysgol arall. Yn yr achos yma, byddwch angen ‘rhyddhau eich hun' fel eich bod yn gallu dod yn rhan o’r broses Clirio.
- nid ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol ar gyfer mis Medi yma ac rydych yn dymuno gwneud cais trwy Clirio am gwrs sy'n cychwyn yn yr hydref.
Holi ein myfyrwyr
Oes gennych chi gwestiwn am fywyd fel myfyriwr Prifysgol Bangor? Bydd ein llysgenhadon yn hapus i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r ateb.
Gallant ddweud mwy wrthych am astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau anhygoel sydd gennym, a sut y gwnaethant ffrindiau a setlo i fywyd yn y brifysgol fel myfyriwr Seicoleg.