Ymunwch â Ni am Sesiwn Tai Chi dros yr Awr Ginio!
A ydych chi’n chwilio am gydbwysedd a llonyddwch mewn diwrnod prysur? Ymunwch â ni am sesiwn Tai Chi adnewyddol AM DDIM yn ystod eich amser cinio!
Bydd y sesiynau'n rhedeg rhwng 12.30-13.30 bob dydd Llun i ddydd Gwener o'r 8fed Ionawr tan 31ain Gorffennaf 2024.
Does dim angen archebu ymlaen llaw. Croeso i bawb!
Manylion y Sesiwn:
Dyddiadau: 8fed Ionawr tan 31ain Gorffennaf 2024.
Sesiynau Awyr Agored Arbennig:
13, 14 Mawrth; 1af i'r 5ed o Orffennaf a'r 8fed i'r 12fed o Orffennaf.
Yn yr Awyr Agored (Gan Ddibynnu ar y Tywydd):Gardd Les Rathbone
Ni fydd dosbarthiadau ar y gaeaf y Pasg rhwng 28 Mawrth a 2 Ebrill.
What to Expect:
Tai Chi is a graceful, flowing exercise that promotes relaxation, flexibility, and mindfulness. It's suitable for all ages and fitness levels. Our experienced instructor will guide you through gentle movements, helping you find tranquillity in the middle of the hustle and bustle of your day.
Beth i'w Ddisgwyl:
Mae Tai Chi yn ymarfer gosgeiddig, braf sy'n helpu o ran ymlacio, ystwythder ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'n addas i bob oedran a lefel ffitrwydd. Bydd ein hyfforddwr profiadol yn eich arwain trwy symudiadau ysgafn, a’ch helpu chi ddod o hyd i dawelwch yng nghanol prysurdeb y diwrnod.
Pam ymuno â ni?
Sesiynau am ddim: Mae’r sesiynau Tai Chi i gyd am ddim.
Mae’n Lle Hardd: Mae Neuadd Rathbone a Gardd Les Rathbone yn lle tawel a hyfryd i'r ymarfer.
Buddion Iechyd: Gall Tai Chi wella cydbwysedd y corff, lleihau straen, a gwella lles cyffredinol.
Cymuned: Cewch gysylltu ag unigolion o gyffelyb anian a phrofi pŵer ymarfer grŵp.
Dewch â’r isod efo chi:
Dillad ac esgidiau cyfforddus
Potel ddŵr
Meddwl agored a chwilfrydedd
Nodiadau Pwysig:
Mewn tywydd garw, mae'n bosibl y caiff y sesiynau awyr agored eu canslo.
Gwyliwch y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'r amserlen.
Darganfod Cytgord Mewnol Amser Cinio:
P’un a ydych chi’n ymarferwr profiadol neu’n newydd i Tai Chi, mae ein sesiynau amser cinio wedi’u cynllunio i gynnig egwyl adfywiol a hybu lles.
I gael mwy o wybodaeth a diweddariadau, ewch i'r wefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Edrychwn ymlaen at rannu crefft Tai Chi gyda chi!
Cyswllt: confuciusinstutute@bangor.ac.uk