Ysgol Uwchradd Prestatyn yn Dathlu Diwylliannau Byd-eang gyda Gweithdai Crefftau Tsieineaidd !
Fel rhan o Ŵyl Ddiwylliannau Ysgol Uwchradd Prestatyn, cafodd myfyrwyr gyfle i ymgolli yn nhraddodiadau Tsieina mewn dau weithdy ymarferol, gan ddysgu creu breichledau a llusernau Tsieineaidd. Cyflwynwyd y sesiynau gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor, ac roeddent yn cynnig ffordd greadigol a rhyngweithiol o ddysgu am dreftadaeth Tsieina, gan danio chwilfrydedd a brwdfrydedd ymhlith y myfyrwyr.
Hwn oedd ein hymweliad cyntaf ag Ysgol Uwchradd Prestatyn, ac roeddem wrth ein bodd gyda’r croeso cynnes a pharodrwydd y myfyriwr i gymryd rhan yn y gweithgareddau. O glymu breichledau symbolaidd a dylunio llusernau lliwgar, ychwanegodd pob myfyriwr eu cyffyrddiad artistig eu hunain wrth ddysgu am yr ystyron diwylliannol sy’n sail i'r crefftau traddodiadol hyn.
Mae’r Ŵyl Ddiwylliannau yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn fenter wych, sy’n meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth byd-eang trwy brofiadau ymarferol. Roeddem yn falch iawn o gael bod yn rhan ohoni ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol i gyflwyno hyd yn oed mwy o brofiadau diwylliannol Tsieineaidd i’r ysgol.