Ynglŷn â’r Cwrs Yma
cod modiwl:(NHS-4379)
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser, lefel 7 ol-raddiedig a gyflwynir ar-lein.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr meddygol a gofal iechyd proffesiynol sy'n gyfrifol am ofal, ansawdd a diogelwch cleifion.
Bydd y cwrs hwn o ddiddordeb i feddygon, fferyllwyr, nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffwyr, a holl weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o broffesiynau eraill.
Pam astudio’r cwrs?
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr werthuso'n feirniadol gysyniad ansawdd o fewn gofal iechyd, a sylfeini gwahanol ddulliau o wella ansawdd.
Yn ystod y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ymchwil berthnasol a dulliau ysgolheigaidd y gellir eu cymhwyso i wella ansawdd mewn gofal iechyd a gwybodaeth ymarferol am sut y gallai hynny arwain at wella prosesau a deilliannau gwasanaethau a datblygu ymarfer, polisi/syniadau ymchwil. Bydd hyn yn eich galluogi i hyrwyddo gwelliannau mewn lleoliad gofal iechyd modern.
Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu i gymhwyso dulliau priodol ar gyfer datblygu meddwl ac ymarfer o fewn cyd-destun her ansawdd gofal iechyd sy'n berthnasol i flaenoriaethau eich sefydliad, a dysgu sut i ddatrys materion trefniadol ac ymarfer cymhleth i yrru gwelliannau ansawdd mewn ymarfer ymlaen.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Mae’r cwrs byr hwn wedi’i ymestyn dros 6 wythnos ac yn dechrau ddydd Mercher 17 Ionawr 2024
Bydd myfyrwyr yn astudio'r cwrs hwn am ddiwrnod yr wythnos (dydd Mercher) rhwng 9am a 5pm.
Tiwtor
Carol Westwell
Mae Carol yn Ddarlithydd Nyrsio Oedolion ac yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer y rhaglen ran amser Baglor mewn Nyrsio, yn ogystal â Chyd-Ddirprwy ar gyfer yr MSc mewn Arwain Gwelliannau Ansawdd ac arweinydd modiwl ar gyfer y Modiwl Dulliau o Sicrhau Ansawdd.
Mae gan Carol 34 mlynedd o brofiad yn system Gofal Iechyd Cymru; fel nyrs brofiadol ac ymchwilydd gwasanaethau iechyd mewn arweinyddiaeth a gwelliannau ansawdd mewn ymarfer.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r dulliau, y fframweithiau a’r offer i hybu ansawdd a gwelliannau i ansawdd o fewn gofal iechyd a’r prif ysgogwyr a’r rheoliadau mewn perthynas â’r GIG, fel y gallant gymhwyso’r rhain yn effeithiol o fewn y lleoliad ymarfer.
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniad o ansawdd mewn gofal iechyd fel cysyniad damcaniaethol ac fel nodwedd sylfaenol o'r gwasanaethau iechyd a gofal iechyd. Gan gwmpasu tair thema: effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb, byddwn hefyd yn archwilio sut mae ansawdd gofal iechyd yn cael ei ddylanwadu a sut y gellir ei fesur a'i werthuso'n effeithiol. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddamcaniaethau a thystiolaeth, mae'r modiwl hefyd yn archwilio'r gwahanol ddulliau o wella ansawdd o fewn gofal iechyd
Bydd y modiwl yn trafod y pynciau canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Ansawdd mewn iechyd a gofal cymdeithasol, safbwyntiau damcaniaethol ac ymarfer.
- Archwilio ysgogwyr allanol a dylanwadau cyd-destunol sy'n llywio mabwysiadu gwahanol ddulliau o wella, a sut mae heriau ansawdd yn cael eu fframio.
- Materion deddfwriaethol, llywodraethu a phroffesiynol o ran ansawdd a gwella gwasanaethau.
- Gwerthuso gwelliant.
- Elfennau gwella a rheoli perfformiad
- Ymarfer ar sail tystiolaeth a dulliau gweithredu.
- Sicrhau gwelliant: Cydgynhyrchu a dulliau eraill a ddefnyddir i gyflawni ymarfer gorau.
- Safbwyntiau'r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ar wella ansawdd a gwasanaethau
Cost y Cwrs
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gall ysgoloriaethau fod ar gael ar gyfer y Cwrs Byr hwn, cysylltwch â'r tîm i drafod ymhellach.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Dulliau o Sicrhau Ansawdd ym maes Iechyd: y cod yw (NHS-4379 ). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol