Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Meysydd Ymchwil - Archaeoleg gydag arbenigeddau mewn:
- Archaeoleg tirwedd cynhanesyddol
- Yr Oes Haearn
- Cymdeithasau Celtaidd
- Cerfluniau canoloesol cynnar
- Archaeoleg eglwysi canoloesol cynnar
- Prydain ac Iwerddon a Gwlad yr Iâ Oes y Llychlynwyr
- Treftadaeth a Hunaniaeth
- Treftadaeth a Dehongliad
- Hanes Archaeoleg
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd yn llawn-amser neu 4-6 blynedd yn rhan-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser neu 4 blynedd yn rhan-amser.
Cyllid
Bwrdd Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ysgoloriaethau a bwrsariaethau achlysurol.
Gofynion Mynediad
Mae'n bosibl dechrau ar PhD ar ôl cwblhau gradd Meistr yn llwyddiannus mewn pwnc cysylltiedig (Hanes/Hanes Cymru/Archaeoleg/Treftadaeth) ym Mangor neu mewn sefydliad arall. Ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith frodorol: IELTS 6.0 yn gyffredinol (dim elfen yn is na 5.5). Gall myfyrwyr sydd â sgôr gyffredinol o 5.5 ddilyn cwrs cyn-sesiwn dros yr haf yng Nghanolfan Iaith Saesneg y Brifysgol i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS).
Gyrfaoedd
Rhaglen ymchwil yw hon. Gallwch ddilyn gyrfa academaidd mewn Archaeoleg. Caiff y sgiliau dadansoddi ac ymchwil ar lefel uchel a gânt eu datblygu yn ystod y radd hon eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn meysydd fel cyfathrebu, y cyfryngau, amgueddfeydd a diwydiannau treftadaeth, addysgu, cyhoeddi, yn ogystal â swyddi mewn ymchwil a datblygu.