Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gall PhD neu MPhil trwy Ymchwil mewn Astudiaethau Cyfieithu gynnwys amryw o bynciau ynghylch theori, hanes ac ymarfer cyfieithu, gan gynnwys amrywiol ieithoedd Ewropeaidd (Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg) a Tsieinëeg. Oherwydd arbenigedd y staff academaidd, byddai rhai pynciau'n hynod berthnasol. Yn eu plith: cyfieithu ac ieithoedd lleiafrifol (mae yma arbenigedd yn y cyd-destun Cymraeg, Galiseg a Chatalaneg); cyfieithu a rhywedd; ymagweddau cymdeithasegol tuag at ymarfer a chyd-destunau cyfieithu, neu gyfieithu a'r diwydiannau creadigol (newyddiaduraeth, ffilm, cyfryngau ac ysgrifennu creadigol).
Byddai PhD neu MPhil trwy Ymarfer mewn Astudiaethau Cyfieithu yn cyfuno cyfieithiad gorffenedig o ddarn o waith beirniadol/creadigol ynghyd â thraethawd hir, gan gynnwys: 1) dadansoddiad beirniadol/sylwebaeth ar y cyfieithiad a'i gyd-destun; 2) darn beirniadol sy'n ymwneud ag Astudiaethau Cyfieithu a fyddai'n gyfraniad at y maes.
Hyd y Cwrs
PhD: 3-4 blynedd yn llawn-amser, 6 blynedd yn rhan-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser, 3 blynedd yn rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, dylai'r ymgeiswyr feddu ar radd israddedig anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch a gradd Meistr mewn pwnc perthnasol.
Fel rheol bydd gofyn i'r rhai nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar IELTS 6.5 neu uwch (heb yr un elfen o dan 6.0). Caiff ceisiadau eu hystyried yn unigol bob amser, a chaiff ymgeiswyr hefyd eu barnu yn ôl eu rhinweddau unigol, eu profiad gwaith a'u cymwysterau perthnasol eraill.
Gall myfyrwyr sydd â sgôr gyffredinol o 5.5 ar yr IELTS ddilyn cwrs cyn-sesiwn yn yr haf yng Nghanolfan Iaith Saesneg y Brifysgol i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS).