Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Astudir cadwraeth o'r graddfeydd genetig i fyd-eang, gyda phwyslais cryf ar gadwraeth rhywogaethau sydd mewn perygl, cadwraeth ar sail tystiolaeth, effeithiau cymdeithasol ac economaidd cadwraeth, gwasanaethau ecosystemau a pholisi cadwraeth.
Astudiaeth Dramor
Yn ychwanegol at y dull astudio cwbl breswyl, mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn cynnig rhaglenni PhD/MPhil 'rhanedig' ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol gyda rhan o'r astudiaeth yn digwydd yng ngwlad y myfyriwr ei hun, neu drydedd wlad. Mae llawer o'n myfyrwyr Prydeinig ac Ewropeaidd eraill hefyd yn gwneud gwaith maes dramor ar gyfer eu hymchwil.
Cyllid
Efallai y bydd cyllid ar gael o'r ffynonellau canlynol: Cynghorau Ymchwil y DU (hysbysebir ysgoloriaethau, myfyrwyr y DU yn unig); Benthyciadau Ôl-raddedigion (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon); Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad; Swyddfa Dramor a Chymanwlad (trwy'r Cyngor Prydeinig); Yr Undeb Ewropeaidd; Ysgoloriaethau prifysgol (myfyrwyr y DU yn unig); Elusennau ac Ymddiriedolaethau; Asiantaethau rhyngwladol; Ysgoloriaethau Llywodraeth Dramor.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda mewn maes pwnc perthnasol i gael mynediad.