Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ymarfer gofal iechyd lefel uwch yn cyfuno theori a thystiolaeth o ymchwil gyda mathau eraill o wybodaeth, yn cynnwys estheteg, moeseg a gwybodaeth broffesiynol bersonol sydd wedi'i lleoli mewn gwahanol gyd-destunau sefydliadol a gwleidyddol.
Mae’r rhaglen hon yn arbennig o berthnasol i weithwyr iechyd proffesiynol sydd mewn swyddi clinigol neu drefnu uwch sy'n cyfuno elfennau o ymarfer, ymchwil a gwella gwasanaeth mewn gofal iechyd. Yr hyn sy'n greiddiol i'r rhaglen yw gwyddor gweithredu sy'n canolbwyntio ar gau'r bwlch rhwng tystiolaeth a pholisi a darparu gwasanaeth. Mae'n galluogi gweithwyr proffesiynol i astudio gradd PhD mewn maes arbenigol sy'n berthnasol yn uniongyrchol i'w harbenigedd a fydd yn eu galluogi i sicrhau newid mewn polisïau ac ymarfer yn y sector gofal iechyd.
Bydd y rhaglen PhD hon yn canolbwyntio ar wyddor gweithredu newid mewn lleoliad clinigol, gyda'r dystiolaeth a'r data sydd wedi cael eu hymchwilio a'u casglu ar y rhaglen ddoethuriaeth yn rhoi'r sylfaen ar gyfer cychwyn a gweithredu'r newid, yn cynnwys rheoli newid.
Gan fod y rhaglen Ddoethurol hon yn cynnwys elfen hyfforddedig, derbynnir myfyrwyr ar bwyntiau penodol yn ystod y flwyddyn er mwyn iddynt ddilyn rhaglen o gyrsiau hyfforddedig yn ystod Blwyddyn 1 a 2.
Mae'r rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r dysgu yn eu hymarfer proffesiynol wrth astudio'r pwnc i'r un dyfnder â PhD damcaniaethol.
Nodweddion allweddol y rhaglen hon yw canolbwyntio ar gynnwys sy'n berthnasol i'r diwydiant a'i ddefnyddio mewn amgylchedd proffesiynol yn y byd go iawn.
Hyd y Cwrs
3 blwyddyn yn llawn-amser neu 5 mlynedd yn rhan-amser.