Gwyddonydd yn gweithio gyda samplau gwaed mewn labordy

Gwyddorau Iechyd

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Gwyddorau Iechyd
Gofalwr yn gafael llaw y claf

Pam Astudio Gwyddorau Iechyd?

Mae ein rhaglenni ymchwil ôl-radd yn gyfle i ddatblygu arbenigedd ar draws meysydd amrywiol Economeg Iechyd, Heneiddio a Dementia, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gwyddorau Iechyd yn fwy cyffredinol ar lefel Gradd Meistr trwy Ymchwil, MPhil neu PhD, a hynny gyda chefnogaeth tîm rhyngddisgyblaethol. Fel ymchwilydd ôl-radd ym Mangor byddwch yn cael eich mentora tra byddwch yn datblygu eich astudiaeth ymchwil, er mwyn sicrhau eich bod yn datblygu set o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cyfoethogi eich cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Nodwedd newydd o’n rhaglenni ymchwil ôl-radd yw’r opsiwn i ddilyn rhaglen Doethuriaeth DHealthcare sy’n rhoi’r opsiwn i fyfyrwyr ddatblygu ysgolheictod mewn ymchwil iechyd a chymdeithasol cymhwysol sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo ymarfer proffesiynol. Mae'r rhaglen DHealthcare yn cynnwys cydbwysedd o fodiwlau hyfforddedig ac elfennau ymchwil cymhwysol sy'n canolbwyntio ar feysydd pwnc Iechyd y Cyhoedd. Mae cyfleoedd i wneud elfen ymchwil gyda sefydliad neu bartner diwydiannol.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Iechyd

Mae ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig yn darparu ysgolheictod cymhwysol a hyfforddiant ymchwil sy'n berthnasol i yrfaoedd cyfoes mewn meysydd ymchwil neu broffesiynol ym maes iechyd clinigol ac ymarfer gofal cymdeithasol, ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Mae'r DHealthcare yn arbennig o berthnasol i'r gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol hynny sydd â rolau clinigol neu sefydliadol uwch sy'n cyfuno elfennau o ymarfer, ymchwil a gwella gwasanaethau mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhaglen yn darparu cymhwyster doethuriaeth sy'n cynnwys modiwlau astudio uwch ac ymchwil sydd wedi'u cynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol, gan gefnogi datblygiad eich gyrfa mewn ystod eang o broffesiynau cysylltiedig.

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Iechyd

Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF 2021 i gynnal a thyfu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Rydym yn cynnal ymchwil o'r safon uchaf, gydag effaith y DU a rhyngwladol sy'n cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol, yn ogystal â chael effaith ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Ein huchelgais yw gwneud cyfraniad cadarnhaol at iechyd a lles yng Nghymru, a datrys heriau iechyd a gofal cenedlaethol a byd-eang. Rydym yn gwneud hyn trwy:

  • Ymgymryd ag ymchwil o'r ansawdd uchaf sy'n cynhyrchu atebion newydd mewn gwasanaethau iechyd a gofal
  • hwyluso mentrau gwella gwasanaethau
  • darparu'r addysgu a'r dysgu gorau yn seiliedig ar ymchwil gyfoes i ddatblygu'r gweithlu iechyd a gofal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
  • gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod popeth a wnawn o'r safon, ansawdd a gwerth uchaf posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth, myfyrwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill.
  • cydnabod ein treftadaeth ddwyieithog yng Ngogledd Cymru
  • cynnal cymhwysedd iaith a diwylliannol sy'n berthnasol i bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?