Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae graddau ymchwil yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr ddatblygu rhaglen ymchwil annibynnol a fydd yn cyfrannu at wybodaeth yn eu maes proffesiynol, a rhoi cyfleoedd unigryw i ddatblygu'n bersonol a datblygu gyrfa.
Rydym yn cynnig addysg ac ymchwil arloesol i fodloni gofynion gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw. Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, sy'n enwog am ddarparu cyrsiau rhagorol a chynnal ymchwil o ansawdd uchel, yn cynnig ystod o gyfleoedd ôl-radd i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol.
Sefydlwyd y Ganolfan, a elwir hefyd yn CHEME, yn 2001 ac mae'n un o dair canolfan economeg iechyd yng Nghymru. Gwneir ymchwil ar lefel leol a chenedlaethol yng Nghymru ond mae cysylltiadau cydweithio cryf hefyd ag ymchwilwyr gwasanaethau iechyd ledled y DU ac Ewrop.
Mae CHEME yn weithredol ar draws ystod eang o ddiddordebau ymchwil economeg iechyd a gellir dosbarthu'r rhain yn fras i'r categorïau a ganlyn (i) gwerthuso economaidd ochr yn ochr â threialon clinigol; (ii) ffarmacoeconomeg; a (iii) gwerthuso'r gwasanaeth iechyd. Mae gan y Ganolfan hefyd gysylltiadau agos iawn ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae ganddi arbenigedd ymchwil mewn economeg iechyd canser, dementia, anableddau golwg ac iechyd gwledig.
Pam dewis Bangor?
Mae ein hymchwil arloesol yn canolbwyntio ar gynhyrchu, cyfuno a defnyddio gwybodaeth gan hyrwyddo datblygiadau mewn gwyddor gweithredu. Yn y modd yma, defnyddir ein hymchwil i gynhyrchu tystiolaeth o ansawdd uchel a datblygu gwell dealltwriaeth o effeithiolrwydd a chost effeithiolrwydd ymyriadau, gwasanaethau a sefydliadau. Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar sicrhau dealltwriaeth o ofal iechyd o amryw o safbwyntiau gan gynnwys datblygu dulliau sy'n ceisio ennyn diddordeb pobl mewn dehongli eu profiadau eu hunain.
Rydym hefyd yn datblygu ac yn defnyddio dulliau ymchwil newydd i gywain yr hyn rydym yn ei wybod, ac i ennyn gwell dealltwriaeth o sut a pham y mae tystiolaeth a gwybodaeth yn cael eu defnyddio, a pham nad ydynt yn cael eu defnyddio, mewn ymarfer. Rhan o'r hyn y mae'r ymchwil yn canolbwyntio arno yw ystyried y cyd-destun diwylliannol a sensitifrwydd iaith fel rhan o gymhlethdod ymarfer gofal iechyd.
Mae nifer o resymau am fanteisio ar y cyfle i wneud ymchwil ôl-radd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd:
- Amgylchedd academaidd croesawgar a chefnogol;
- Goruchwylwyr profiadol sy'n arwain yn eu meysydd academaidd a phroffesiynol;
- Cefnogaeth unigol gan dimau goruchwylio sy'n rhannu eu harbenigedd i helpu eich ymchwil;
- Swyddfa benodol a mynediad at dechnoleg gwybodaeth;
- Sylw i'ch hyfforddiant ymchwil a datblygu sgiliau eraill fel arweinyddiaeth a rheoli projectau.
Cysylltiadau â Diwydiant
Gan weithio gyda chanolfannau ymchwil BIHMR yn ogystal ag ar draws y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad a phrifysgolion eraill yn y DU ac yn rhyngwladol, rydym wedi adeiladu enw da am ein hymchwil mewn ymarfer ar sail tystiolaeth, sensitifrwydd diwylliannol ac ymwybyddiaeth iaith, ac amodau cymhleth gydol oes. Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth hon, mae ein harweinwyr rhaglenni a'n goruchwylwyr profiadol yn cyflwyno cyrsiau clinigol cyfoes a pherthnasol a phrofiadau goruchwylio i fyfyrwyr o amrywiaeth o leoliadau a phroffesiynau.
Mae ein partneriaethau â chanolfannau ymchwil, practis ac unedau polisi sydd gyda'r gorau yn y byd yn rhoi cyfleoedd i addysgu ar y cyd, goruchwylio a phrojectau cydweithredol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau datblygiad personol a phroffesiynol pob myfyriwr ar draws ein rhaglenni.
Hyd y Cwrs
2 flynedd yn llawn-amser; 4 blynedd yn rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol. Neu gall profiad hir a phriodol mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd neu mewn swydd sy'n canolbwyntio ar ymchwil fod yn berthnasol. Safon iaith Saesneg - gofynnwn am sgôr IELTS o 7.0 neu uwch (heb unrhyw elfen unigol yn is na 7.0).