Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ymchwil amlddisgyblaethol i brosesau sylfaenol wedi'i anelu at greu amgylcheddau cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig, ar gyrion trefi ac mewn trefi; gyda ffocws mawr ar newid yn yr hinsawdd, biocemeg, ecoffisioleg planhigion, rheoli gwastraff ac adfer.
Astudiaeth Dramor
Yn ychwanegol at y dull astudio cwbl breswyl, mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn cynnig rhaglenni PhD/MPhil 'rhanedig' ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol gyda rhan o'r astudiaeth yn digwydd yng ngwlad y myfyriwr ei hun, neu drydedd wlad. Mae llawer o'n myfyrwyr Prydeinig ac Ewropeaidd eraill hefyd yn gwneud gwaith maes dramor ar gyfer eu hymchwil.
Cyllid
Efallai y bydd cyllid ar gael o'r ffynonellau canlynol: Cynghorau Ymchwil y DU (hysbysebir ysgoloriaethau, myfyrwyr y DU yn unig); Benthyciadau Ôl-raddedigion (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon); Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad; Swyddfa Dramor a Chymanwlad (trwy'r Cyngor Prydeinig); Yr Undeb Ewropeaidd; Ysgoloriaethau prifysgol (myfyrwyr y DU yn unig); Elusennau ac Ymddiriedolaethau; Asiantaethau rhyngwladol; Ysgoloriaethau Llywodraeth Dramor.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda mewn maes pwnc perthnasol i gael mynediad.
Gwneud Cais
Y cam cyntaf yw nodi prosiect sy'n eich diddori ac yna cysylltu â'r aelod o staff sy'n ei hysbysebu. Byddant wedyn yn eich cynghori a yw a sut y dylech wneud cais ffurfiol i'r Brifysgol. Wrth gysylltu â goruchwylwyr posibl, dylech amlinellu'n fyr eich cefndir academaidd ac egluro eich diddordeb yn y prosiect yr ydych yn cysylltu amdano, yn ogystal â atodi CV.
Peidiwch â chyflwyno cais uniongyrchol am radd ymchwil ôl-raddedig i Brifysgol Bangor heb nodi goruchwyliwr posibl yn gyntaf a thrafod eich diddordebau ymchwil a'ch cais gyda hwy yn gyntaf.