Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MSc trwy Ymchwil mewn Microbioleg a Biotechnoleg Amgylcheddol yn rhaglen amser-llawn am flwyddyn sy'n wahanol i raglen Meistr hyfforddedig o ran ei bod yn rhoi mwy o bwyslais ar ymchwil, ac mae'n cael ei harholi'n debycach i PhD, trwy arholiad viva voce (llafar), yn hytrach na graddio gwaith cwrs a thraethawd hir. Bydd y radd hon yn rhoi hyder a chymhwysedd i chi yn y sgiliau ymchwil diweddaraf (gan gynnwys sgiliau generig megis chwilio llenyddiaeth, agweddau cyfreithiol a moesegol, cynllunio projectau, ysgrifennu cynigion grant, a thrin data ystadegol) a bydd yn eich galluogi chi i wneud cais am hyfforddiant ymchwil pellach (PhD), neu i wneud cais uniongyrchol am swyddi ymchwil mewn prifysgolion neu sefydliadau ymchwil.
Byddwch yn treulio'r tri mis cyntaf yn mireinio'ch cynnig project ac yn cynnal adolygiad trylwyr o'r Llenyddiaeth. Byddwch hefyd yn cyflwyno'ch cynnig i weddill y garfan a'r goruchwylwyr. Bydd yr adborth a gewch chi'n eich galluogi i wella'r project a'r traethawd ymchwil. Bydd disgwyl i chi hefyd fanteisio ar y rhaglen hyfforddiant a ddarperir gan Goleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg ac Ysgol y Graddedigion ac Ysgol Ddoethurol y Brifysgol mewn sgiliau pwnc-benodol a generig ôl-raddedig.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am arbenigeddau ymchwil a manylion cyswllt staff ar dudalennau Ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Naturiol a'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB), y project adeiladu gallu ymchwil (£7.8M) a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar ddefnydd biodechnolegol o ficro-organebau eithafoffilig, eu hensymau a'u metabolynnau. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth gref ar gyfer gweithgareddau ymchwil, mae'r Ysgol yn cynnig cyfleoedd rhagorol i fyfyrwyr gynnal gwaith project dan oruchwylwyr rhyngwladol cydnabyddedig a phrofiadol sy'n gysylltiedig hefyd â'r CEB.
Mae'r enghreifftiau o bynciau projectau posib yn cynnwys (ond nid ydynt wedi'u cyfyngu iddynt):- darganfod ensymau newydd o berthnasedd diwydiannol o ficro-organebau eithafoffilig a'u cymunedau;
- tyfu archaea eithafoffilig (e.e. hyperacidoffilig);
- microbioleg diraddiad petrolewm yn amgylcheddau'r môr: eu meithrin ac astudiaethau OMICS);
- defnyddio bacteria'r môr sy'n diraddio olew (ensymau, syrffactyddion, biopolymerau, osmolytau);
- dadansoddiad meithriniad-annibynnol (metagenomaidd) o gyfansoddiad tacsonomeg a photensial gweithrediadol cymunedau microbiaid;
- ymchwilio i rôl micro-organebau'r môr a'u hensymau yn nhynged plastigau polyester synthetig
- defnyddio technolegau metabolomeg i ddarganfod ensymau (egwyddorion cyffredinol, paratoi samplau, modd targedu a darganfod, dadansoddiad LC-MS o gymysgeddau metabolit cymhleth a dadansoddi data (biowybodeg);
Bydd y myfyrwyr hefyd yn elwa o'r cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth sydd gennym â sefydliadau'r sector wladol a phreifat.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad mae angen gradd gyntaf dda (2.ii neu uwch) mewn pwnc biolegol perthnasol gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan unrhyw sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Mi wnawn ni ystyried myfyrwyr aeddfed sydd heb radd hefyd ond sydd â phrofiad diweddar a pherthnasol sylweddol (e.e. diwydiannol).