Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n dymuno gweithio ar lefel doethuriaeth ym maes addysg eisoes wedi bod yn gweithio yn y sector addysg am nifer o flynyddoedd, fel athrawon, gweinyddwyr, ymgynghorwyr, arolygwyr, ac ati. I rai, y llwybr PhD arferol, lle gwneir astudiaeth fanwl, unigol o un pwnc arbenigol, yw'r dull mwyaf priodol o ymchwilio. I eraill, fodd bynnag, mae angen dull newydd sy'n darparu gwybodaeth eang am nifer o agweddau ar addysg ynghyd â'r cyfle i ymchwilio i fater penodol o ddiddordeb proffesiynol. Mae'r rhaglen EdD yn darparu ar gyfer yr anghenion hynny trwy gyfuno unedau hyfforddedig â thraethawd ymchwil dan oruchwyliaeth unigol.
Amcanion y rhaglen yw:
- darparu rhaglen hyblyg o astudiaethau academaidd a phroffesiynol perthnasol ar lefel ddoethurol ym maes Astudiaethau Addysg i fyfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd addysgol a phroffesiynol
- rhoi gwybodaeth eang i fyfyrwyr am faterion hanfodol yn ymwneud â pholisi, ymarfer, ymchwil a rheolaeth;
- datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad myfyrwyr o faterion penodol ac arbenigol yn ymwneud â'u bywydau a'u gwaith proffesiynol.
Am fwy o fanylion, ebostiwch Dr Emily Roberts-Tyler
Gofynion Mynediad
Fel rheol, gofynnir bod ymgeiswyr y rhaglen EdD wedi astudio ar lefel Meistr eisoes.
Gall myfyrwyr sydd wedi bod ar y rhaglen MA Astudiaethau Addysg symud i’r rhaglen EdD ar ôl cwblhau Rhan 1 yr MA heb orfod gwneud y traethawd hir ar gyfer yr MA. Ystyrir ceisiadau i drosglwyddo credydau i’r EdD fesul achos, gan mai gradd ymchwil yw’r EdD yn ei hanfod.
Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf fod â chanlyniad IELTS o 6.0 neu fwy, a dim un marc yn is na 5.5, neu farc TOFEL o 560 ar bapur neu 220 ar gyfrifiadur, oni bai eu bod eisoes wedi astudio ar lefel prifysgol trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael eu cyfweld wyneb yn wyneb neu trwy ddull arall.