Fy ngwlad:
Darlithydd yn pwyntio at fwrdd gwyn

Addysg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Addysg

1af

yn y DU am Werth Ychwanegol (Addysg)

Guardian Good University Guide 2023

Pam Astudio Addysg?

Credwn yn gryf ein bod yn addysgu ac yn hyfforddi gwneuthurwyr newid y dyfodol. Bydd PhD mewn Addysg gyda ni yn eich galluogi i fod wrth wraidd gwella ansawdd a pholisïau addysgu lle bynnag y bydd eich gyrfa yn mynd â chi.

  • Mae ein tiwtoriaid prifysgol hyfforddedig iawn yn ymfalchïo mewn darparu cefnogaeth ac arweiniad rhagorol i chi
  • Mae ein harbenigedd rhyngwladol a'n profiad o'r theori a'r ymchwil arweinyddiaeth ddiweddaraf yn eich paratoi ar gyfer swyddi arwain yn y dyfodol
  • Cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Gyda’i harbenigedd ymchwil hirsefydlog, a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn meysydd sy’n ymwneud ag addysg, mae Prifysgol Bangor yn darparu’r cyfleoedd gorau i chi hyfforddi fel ymchwilydd effeithiol, a chynyddu effaith eich ymchwil i’r eithaf.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysg

Mae Cymru ar flaen y gad o ran diwygio addysgol yn y DU ac ym Mangor, mae ein staff academaidd yn chwarae rhan fawr mewn diwygiadau theori ac ymarfer a gall gweithio gyda nhw roi hwb gyrfa mewn amrywiaeth o broffesiynau.

Byddwch yn dysgu sut i ddod yn ddefnyddiwr beirniadol o wybodaeth ac i gwestiynu'r hyn rydych chi'n ei ddarllen, dysgu sut i ddelio â data a'i ddehongli, a dysgu sut mae'r broses ymchwil yn gweithio - sgiliau a fydd yn eich gwasanaethu'n dda ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae myfyrwyr PhD o Fangor wedi mynd ymlaen i yrfaoedd yn y byd academaidd, gan gynnwys swyddi darlithio ac ymchwil bellach, tra bod eraill wedi mynd ymlaen i weithio i Lywodraeth Cymru, mewn ymarfer cwnsela, ac ym maes addysgu. 

Ein Hymchwil o fewn Addysg

Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil mwyaf cyfredol yn eich maes ac yn cael cyfle i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol wrth ddylunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau proffil uchel ledled y byd.

Mae ein staff yn cynnal amrywiaeth o ymchwil sy'n arwain y sector, sydd wedi ennill gwobrau,  a’i ganmol yn genedlaethol ac a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn fwyaf arbennig ym meysydd Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.