Ynglŷn â’r Cwrs Yma
PhD (neu doethuriaeth) yw'r cymhwyster academaidd uchaf sydd ar gael. Nod gradd PhD yw darparu sylfaen gref mewn meysydd arbenigol iawn trwy ymchwil. Ei fwriad yw eich galluogi i fod yn ymchwilydd ym maes seicoleg, gan gyfrannu at wybodaeth academaidd a datblygu gwaith o ansawdd y gellir ei gyhoeddi'n rhyngwladol. Mae Seicoleg Bangor yn cynnig goruchwyliaeth PhD yn y meysydd canlynol:
- Language, Bilingualism and Cognitive Development
- Perception, Action and Memory
- Social Neuroscience
- Clinical, Health and Behavioural Psychology
Bydd adnoddau ymchwil a chyfrifiadura o'r radd flaenaf ar gael i chi ynghyd â'r cyfle i astudio gyda staff academaidd byd-enwog. Yn REF 2014, dyfarnwyd bod 89% o’n gwaith ymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae angen goruchwyliaeth gan o leiaf un aelod staff academaidd yn yr ysgol ar bob myfyriwr PhD/MPhil, ac os ydych yn ystyried astudio am PhD/MPhil, bydd gennych syniad da eisoes o'r maes neu'r thema benodol rydych eisiau ei ymchwilio. Er mwyn dod o hyd i oruchwyliwr sydd â'r arbenigedd perthnasol, dylech edrych ar ein tudalennau staff yn gyntaf (www.bangor. ac.uk/psychology/staff) am ddadansoddiad o faes arbenigedd pob aelod staff academaidd. Ar ôl i chi ddod o hyd i ymchwilydd sydd â'r un diddordebau ymchwil â chi, yn fras, dylech gysylltu â hwy'n uniongyrchol naill ai i holi am brojectau sy'n bodoli eisoes neu i gyflwyno 'briff' ymchwil cryno sy'n amlinellu eich cynnig. Os yw'r academydd yn mynegi diddordeb mewn goruchwylio eich PhD, yna gallwch drafod eich syniadau ymhellach a datblygu cynnig ymchwil llawn. Ar y cam hwn, dylech wneud cais ffurfiol ar-lein am le ar y rhaglen PhD/MPhil.
Ariannu
Yn ystod eich astudiaeth PhD, bydd angen cyllid arnoch i dalu am ffioedd dysgu, rhai o'ch costau ymchwil, a'ch lwfans byw. Gellir cael cyllid i astudio PhD trwy gynlluniau cystadleuol a weithredir yn yr Ysgol Seicoleg a chan asiantaethau llywodraeth y DU/UE (www. bangor.ac.uk/psychology/study-with-us/ postgraduate-funding). Efallai y bydd hefyd yn bosib dod o hyd i gyllid allanol cyn cysylltu â'r ysgol (e.e. gan eich cyflogwr neu'r llywodraeth) ac efallai y bydd rhai ymgeiswyr yn penderfynu hunan-ariannu eu hastudiaeth ddoethurol. Ymhob achos, rydym yn croesawu mynegiant o ddiddordeb gennych a'r cyfle i'ch goruchwyliwr enwebedig ystyried eich cynnig ymchwil.
Gofynion Mynediad
Disgwylir i chi feddu ar radd israddedig mewn seicoleg neu bwnc cysylltiedig, gyda o leiaf gradd dosbarth 2.i neu gyfwerth. Os nad oes gennych radd MSc eisoes, yna byddem fel arfer yn disgwyl ichi gwblhau gradd o'r fath cyn dechrau'r rhaglen PhD.
Myfyrwyr rhyngwladol: Gofynnir am IELTS 6.5 (heb unrhyw elfen dan 6.0).