Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle i weithio dros gyfnod estynedig ar gasgliad o straeon byrion, nofel neu gasgliad o gerddi dan oruchwyliaeth unigol awdur sy'n cyhoeddi yn eich maes. Byddwch yn cynnwys sylwebaeth feirniadol ar eich gwaith creadigol, a ddylai ganolbwyntio'n bennaf ar archwilio syniad, pwnc, genre, thema, awdur neu grŵp o awduron sydd â pherthynas â'r gwaith creadigol dan sylw. Bydd ymchwilio i'r elfen hon yn sicrhau gwybodaeth dda am faterion llenyddol cyfoes. Dylai'r sylwebaeth feirniadol gynnwys adran lle byddwch yn trafod eich gwaith eich hun a sut y mae'n ymwneud â'r testunau llenyddol rydych wedi'u trafod. Prif elfen y PhD yw'r elfen greadigol y bwriedir i'r sylwebaeth feirniadol ei chefnogi. Dylai'r elfen greadigol fod yn 70,000 i 80,000 o eiriau o hyd os yw'n rhyddiaith. Yn achos barddoniaeth trafodir hyd cyfatebol, yn dibynnu ar union natur y gwaith creadigol a gyflwynir, gyda'ch goruchwyliwr. Dylai'r sylwebaeth feirniadol fod rhwng 20,000 a 30,000 o eiriau. Disgwylir i'r traethawd ymchwil, a fydd yn cynnwys elfennau creadigol a beirniadol, fod â chyfanswm geiriau o oddeutu 100,000 o eiriau neu gyfwerth.
Byddwch yn ymuno â chymuned ôl-raddedig fywiog ac yn cael eich addysgu gan staff sydd â phrofiad sylweddol o addysgu ysgrifennu creadigol ar lefel ôl-raddedig. Mae nifer o'r aelodau staff yn awduron cyhoeddedig sydd wedi ennill gwobrau, ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau golygu a beirniadu. Rydym hefyd yn elwa o bresenoldeb y bardd yr Athro Carol Rumens ac ymweliadau'r Athro Anrhydeddus Philip Pullman.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, byddem yn disgwyl i fyfyrwyr fod â gradd ddosbarth cyntaf neu radd dda yn yr ail ddosbarth. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr heb MA ddilyn y modiwl hyfforddiant ymchwil. Rydym yn gallu derbyn myfyrwyr sy’n dysgu o bell, ond dylent eisoes fod wedi ennill y sgiliau a ddysgir yn y seminarau rhagarweiniol, neu dylent drefnu mynd i seminarau cyfatebol mewn sefydliad arall, ar eu cost eu hunain. Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.5 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 6.0).
Gyrfaoedd
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn addysg uwch, yn ogystal ag ym maes cyhoeddi, gweinyddu'r celfyddydau, ymchwil y cyfryngau, ac amrywiaeth o yrfaoedd cysylltiedig. Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi'n llawn at yrfa yn y dyfodol fel awdur ac fel academydd. Caiff y myfyrwyr hefyd gyfle i ddilyn ystod o raglenni hyfforddi a gynigir trwy'r brifysgol a fydd yn gwella eu cyfleoedd o ddod o hyd i waith yn eu maes dethol yn sylweddol.
Mae nifer o fyfyrwyr ysgrifennu creadigol diweddar neu bresennol wedi cyhoeddi casgliadau o gerddi neu straeon byrion sydd yn ffrwyth eu hastudiaethau yma ym Mangor. Ymhlith y rhain mae John Tanner, Richard Jones a Nessa O'Mahoney. Mae eraill wedi cyhoeddi straeon gan gynnwys Terri Lee Hackman, Zoe Perrenoud, a Lisa Blower (a fu hefyd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Stori Fer 2009 y Guardian).