Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau ar lefel ôl-raddedig i chi ym meysydd rhyngddisgyblaethol troseddeg a'r gyfraith. Mae'n adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth droseddegol a chyfreithiol er mwyn rhoi hyfforddiant arbenigol mewn troseddeg, cyfiawnder troseddol ac ymchwil i'r gyfraith. Byddwch yn datblygu gwedd ryngwladol ar drosedd, cyfiawnder a’r gyfraith trwy ddulliau ymdrin cenedlaethol a thraws-genedlaethol ac astudiaethau achos ar gymdeithasau eraill, yn ogystal ag astudio materion o bwys ym maes troseddeg a chyfraith gyfoes. Byddwch hefyd yn meithrin ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy.