Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r MA Addysg Cerddoriaeth yn fodd i chi ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o theori ac ymarfer dysgu cerddoriaeth i eraill. Bydd gennych ddealltwriaeth gref o'r berthynas rhwng cerddoriaeth ac addysg, gan gynnwys profiad ymarferol mewn fframwaith damcaniaethol cadarn.
Bydd gennych hefyd sgiliau uwch mewn cerddoriaeth ac addysg fel disgyblaethau ar wahân. Byddwch yn wybodus ac yn fedrus fel cerddolegwyr, cyfansoddwyr a/neu berfformwyr, a byddwch yn hogi sgiliau personol a phroffesiynol a werthfawrogir yn y sector addysg, gan gynnwys sgiliau mewn cynllunio, dylunio cyrsiau, a rheoli. Gall gwybodaeth gerddorol gynnwys amrywiaeth o arddulliau o repertoires, amryw o fethodolegau ar gyfer astudio cerddoriaeth, a phrofiad o rolau llesiannol cerddoriaeth mewn lleoliadau addysgol, cymunedol a gofal iechyd. Byddwch yn datblygu ffocws ar ymchwilio beirniadol a meddwl creadigol ynghylch addysg cerddoriaeth.
Byddwch yn dod yn ymarferwyr adfyfyriol, gyda sgiliau arwain rhagorol. Byddwch yn ystyried addysg gerddorol yn ei holl agweddau, gan ganolbwyntio nid ar arddulliau’r repertoire ond yn hytrach ar wybodaeth gerddorol a gallu cyfathrebu'n effeithiol am gerddoriaeth.
Astudir y rhaglen mewn amgylchedd amlddisgyblaethol, sy'n cynnwys rhyngweithio â cherddolegwyr, cyfansoddwyr, perfformwyr ac addysgwyr proffesiynol. Byddwch yn deall y gydberthynas rhwng theori ac ymarfer, ac efallai y byddwch hefyd yn gweithio gydag ysgolheigion ac ymarferwyr mewn meysydd eraill, megis ieithyddiaeth, newyddiadurwyr, a pherfformwyr llwyfan.
Mae'r rhaglen yn rhoi paratoad rhagorol i chi ar gyfer astudio pellach fel ymchwilwyr ôl-radd (gan gynnwys ymchwil â phwyslais ar ymarfer), yn ogystal â hogi eich sgiliau ac ymestyn eich gwybodaeth at yrfa lwyddiannus mewn addysg cerddoriaeth. Mae'r sgiliau allweddol lefel uchel a enillwch (gan gynnwys cyfathrebu a meddwl yn feirniadol) hefyd yn amlwg yn drosglwyddadwy i broffesiynau eraill.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Cwricwlwm eang sy'n datblygu eich dealltwriaeth ddamcaniaethol o addysgeg cerddoriaeth sydd hefyd yn meithrin sgiliau a phrofiad trwy gymhwyso ymarferol.
- Cwrs cyfoes sy'n dod â safbwyntiau ffres ar addysg cerddoriaeth, a ffocws ar gyflogadwyedd.
- Caiff ei ddysgu gan staff profiadol mewn addysg ac addysg cerddoriaeth.
- Rhaglen hyblyg sy'n eich galluogi i archwilio eich meysydd o diddordeb eich hun o fewn Addysg Cerddoriaeth.
- Amrywiaeth hyblyg o ddulliau asesu a gynlluniwyd i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy iawn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r MA Addysg Cerddoriaeth yn cynnig modiwlau sy’n archwilio hanfodion addysg cerddoriaeth o amrywiol safbwyntiau a gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys perfformiad, hanes a theori.
Mae eich semester cyntaf yn meithrin gwybodaeth am egwyddorion, cysyniadau ac offer hanfodol ar gyfer gweithio fel addysgwr cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Yn yr ail semester byddwch hefyd yn datblygu sgiliau a phrofiad o roi gwybodaeth ar waith, trwy brojectau cydweithredol gyda chymheiriaid (a hwylusir gan y staff) ac ymgysylltu ag arferion addysgu cyfredol. Bydd yr ail semester hefyd yn eich paratoi at broject ymchwil yr haf, gan ddatblygu eich sgiliau ymchwil a ffurfioli eich cynnig ymchwil (gan gynnwys ystyriaethau moesegol). Daw’r rhaglen i ben gyda phroject ymchwil yr haf, lle byddwch yn gweithio ar y project a gynlluniwyd yn semester 2, o dan oruchwyliaeth aelod profiadol o’r staff.
Ar y cwrs bydd y myfyrwyr yn cwblhau 180 credyd, gan gynnwys 120 o gredydau o fodiwlau hyfforddedig a’r project ymchwil (60 credyd).
Yn ystod semester 1 a 2 bydd y myfyrwyr yn dilyn modiwlau hyfforddedig ar ddatblygiad cwricwlwm addysg cerddoriaeth, damcaniaethau ac arferion cerddoriaeth addysg, dulliau ymchwil uwch yn ogystal â modiwl naill ai mewn asesu mewn addysg neu arweinyddiaeth a rheolaeth addysgiadol. Byddwch hefyd yn dilyn modiwl project addysg cerddoriaeth gyfoes ac yn dewis modiwl dewisol pellach o blith y rhai sydd ar gael. Ar ôl cwblhau'r cwrs hyfforddedig, bydd y myfyrwyr yn symud ymlaen i'r ymchwil project, a gynhelir dros yr haf.
Sut byddwch yn dysgu ar y cwrs?
Fel rheol, cewch dasgau i'w cwblhau cyn y dosbarthiadau; mae cyfranogiad y myfyrwyr yn elfen hanfodol o addysgu a dysgu ôl-radd. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allanol, e.e. lleoliad ysgol a phroject addysg gymunedol.
Bydd eich asesiadau – ffurfiannol a chrynodol – yn amrywiol, gan gynnwys cyflwyniadau, adroddiadau, projectau grŵp, traethodau ac arddangosiadau addysgu. Bydd hyblygrwydd yn eich project ymchwil, a fydd yn caniatáu amrywiaeth eang o fformatau cyflwyno (e.e. portffolio’r offer addysgu) ochr yn ochr â thraethawd hir traddodiadol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Addysg Gerddoriaeth.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Fel rheol mae angen gradd gyntaf mewn Cerddoriaeth o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Caiff graddau cyntaf mewn meysydd eraill sy'n ymwneud â cherddoriaeth eu hystyried fesul achos.
Anogir ymgeiswyr sydd â TAR Cerddoriaeth yn wresog i wneud cais. Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad ymarferol perthnasol a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried yn unigol.
Fel rheol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr rhyngwladol nad yw’r Gymraeg neu’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt gyflwyno tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg. Gofyniad sylfaenol iaith Saesneg - IELTS o 6.5 (heb yr un elfen o dan 6.0), neu gyfwerth.
Nodwch hefyd yr amodau ychwanegol canlynol*:
- Ffurflen hunan-ddatganiad yr ymgeisydd:
- Gwiriad cofnodion troseddol boddhaol o'ch sir breswyl.
* Yn ofynnol ar gyfer pob ymgeisydd cyn eu derbyn ar y cwrs. Bydd tîm y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus ynglŷn â sut mae gwneud cais ar ôl cael cynnig lle. Rhaid hefyd i’r ymgeiswyr llwyddiannus wneud cais am Ddatgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gan wirio'r rhestr gwaharddiadau ar weithio â phlant. Anfonir gwybodaeth atoch sy'n egluro sut i gael y gwiriad DBS cyn dechrau'r rhaglen.
Gyrfaoedd
Cynlluniwyd y rhaglen hon i baratoi myfyrwyr at yrfa mewn addysg cerddoriaeth trwy ddarparu sylfaen drylwyr mewn fframweithiau damcaniaethol a chysyniadol yn ogystal â rhoi llawer o gyfleoedd i chi roi syniadau o'r fath ar waith, trwy arddangos ac arsylwi. Mae’r rhagolygon yn wych o ran cyflogadwyedd, ac mae amryw o opsiynau gyrfaol ym meysydd cerddoriaeth ac addysg. Mae'r rhaglen yn addas i fyfyrwyr sydd eisoes yn gweithio ym maes addysg cerddoriaeth, ac sy'n dymuno datblygu sgiliau, gwybodaeth a syniadau newydd, a datblygu eu gyrfaoedd. Mae'r rhaglen hefyd yn briodol i’r rhai sy'n bwriadu dysgu cerddoriaeth yn breifat. Bydd yn ategu TAR i’r rhai sy'n dilyn gyrfa ddysgu mewn ysgol. Mae cyfleoedd cyflogaeth eraill o fewn sefydliadau celfyddydol (e.e. fel swyddogion addysg cerddorfeydd a chwmnïau opera), y cyfryngau, newyddiaduraeth, cyhoeddi, llyfrgellyddiaeth a rheoli gwybodaeth, ac amrywiol ddiwydiannau’r we.
I fyfyrwyr rhyngwladol, gallai cwblhau'r rhaglen hon helpu myfyrwyr o gefndiroedd cerddorol sicrhau swyddi mewn ysgolion cynradd neu uwchradd. Ar ôl dychwelyd i'w mamwlad, gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd ddod yn hunangyflogedig, a chynnig addysg gerddorol breifat. Mewn llawer o wledydd (e.e., Tsieina), mae galw mawr am addysg gerddorol yn ystod plentyndod (4-12 oed), a bydd y rhaglen hon yn helpu graddedigion lenwi'r bwlch hwnnw.
Mae’r sgiliau trosglwyddadwy a enillir trwy astudio cerddoriaeth ac addysg ar lefel Meistr yn addas i yrfa yn y gwasanaeth sifil, diwydiant a phroffesiynau eraill.
*Cofiwch: Nid yw'r cwrs yn arwain at gymhwyster dysgu ar ôl graddio.