Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yn y byd sydd ohoni a’r newidiadau di-rif sy’n digwydd, gall cwrs ôl-radd fod o fudd mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Gallai roi i chi'r fantais ychwanegol y mae cyflogwyr heddiw yn chwilio amdani neu gallai fod o gymorth i chi gael dyrchafiad. Beth bynnag eich amcanion academaidd neu broffesiynol, bydd traddodiad hir yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol o ragoriaeth academaidd yn gymorth i chi eu cyflawni.
Mae ein MA Astudiaethau Addysg (gyda lleoliad) yn rhaglen hyfforddedig 15 mis o hyd gyda lleoliad i bobl sydd eisiau gwneud gradd MA trwy astudio’n ddwys yn llawn-amser. Mae gan fyfyrwyr ddewis o fodiwlau sy'n gwneud cyfanswm o 200 credyd. Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i apelio at myfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol.
Tysteb
"Mae'r Meistr Astudiaethau Addysg (gyda lleoliad) wedi bod yn fuddsoddiad gwych o ran amser ac arian. Ar ôl gorffen fy ngradd israddedig ym Mangor, roeddwn eisiau cynyddu fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o feysydd allweddol addysg. Mae’r cwrs hwn wedi fy helpu i gyflawni hynny a mwy. Trwy'r addysgu a'r gefnogaeth ragorol, roeddwn yn gallu datblygu fy sgiliau ysgrifennu a beirniadol i safonau uchel. Mae'r cwrs hwn wedi fy helpu'n fawr ar ddechrau fy ngyrfa, a bydd yn parhau i'm helpu drwy gydol fy ngyrfa. Rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych ar y cwrs ac wedi mwynhau pob munud ohono.” Josh Camilleri, a raddiodd gyda theilyngdod yn 2020
Lleoliadau
Byddwch yn gallu gwneud eich lleoliad naill ai mewn meithrinfa, ysgol gynradd, ysgol uwchradd neu ysgol addysg arbennig neu yn y brifysgol
lle byddwch yn arsylwi strategaethau addysgu, rheoli, cwricwla ac asesu dosbarth a ddefnyddir gan athrawon a chael profiad uniongyrchol o system addysg y Deyrnas Unedig. Bydd lleoliadau hefyd yn eich galluogi i adfyfyrio ar eich astudiaethau a gweld y theori yn cael ei rhoi ar waith, a fydd yn helpu eich datblygiad pellach a'ch cymhwysedd proffesiynol.
Rhaid i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn dod â'r holl ddogfennaeth ar gyfer gwiriad cofnodion troseddol i’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol ar ddechrau'r cwrs. Ni ellir lleoli myfyrwyr mewn ysgol heb y gwiriad cofnodion troseddol gofynnol.
Modiwlau craidd:
- Dulliau ymchwil
- Lleoliad
- Traethawd hir
Mae amrywiaeth o fodiwlau dewisol hefyd ar gael.
Symud ymlaen
Bydd yn bosib i fyfyrwyr MA addas symud i’r rhaglen Doethuriaeth mewn Astudiaethau Addysg (EdD) ar ôl cwblhau pum modiwl hyfforddedig (140 credyd) yr MA Astudiaethau Addysg a dangos y gallu i astudio ar lefel teilyngdod neu uwch. Ni fyddai’n rhaid i fyfyrwyr o'r fath ysgrifennu traethawd hir MA ond byddai’n rhaid iddynt gwblhau chweched modiwl, 'Cynnig Traethawd Ymchwil'.
Ystyrir ceisiadau i drosglwyddo credydau i’r EdD fesul achos, gan Gyfarwyddwr y Cwrs EDd, gan mai gradd ymchwil yw’r EdD.
Ar ôl gorffen pob un o’r chwe modiwl, efallai y gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen EdD wneud cais am efrydiaethau (gweler y rhaglen EdD am ragor o wybodaeth).
Gwneud Cais
I gael gwybodaeth fanwl am ymgeisio ar-lein cliciwch yma neu yma os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol.
Derbynnir ceisiadau trwy gydol y flwyddyn, ond argymhellir yn gryf bod ymgeiswyr rhyngwladol yn gwneud cais yn gynnar. Y dyddiad cau i ddechrau ym mis Medi yw 31 Gorffennaf. Caiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw eu hystyried ar gyfer dechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr cartref yw 31 Awst bob blwyddyn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'n rhaid i bob myfyriwr astudio'r modiwlau gorfodol canlynol:
- Dulliau ymchwil (30 credyd)
- Modiwl lleoliad (20 credyd)
- Traethawd hir (60 credyd)
Bydd myfyrwyr yn dewis 90 credyd ychwanegol o'r modiwlau dewisol canlynol:
- Datblygu'r Cwricwlwm (30 credyd)
- Arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol (30 credyd)
- Asesu mewn Addysg. Gallwch hefyd ddewis o fodiwlau a gynigir ar y cwrs MA Astudiaethau Addysg rhan-amser, e.e. Rheoli Ymddygiad ac ar y cwrs MA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, e.e. Cymdeithaseg Plentyndod ac Ieuenctid. Gall y dewisiadau hyn newid o flwyddyn i flwyddyn. (30 credyd)
Dysgir y cwrs trwy gyfrwng y Saesneg ac mae croeso i fyfyrwyr gyflwyno aseiniadau yn Saesneg neu Gymraeg.
Bydd y cwrs yn cynnwys rhywfaint o ddysgu ar-lein ac amser astudio annibynnol.
Gall rhywfaint o'r dysgu gael ei gynnal ar benwythnosau ac yn hwyr yn y prynhawn.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Addysg (gyda Lleoliad) (Llawn-amser).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd 2(ii), a gorau oll os oes gennych brofiad gwaith perthnasol fel athro/darlithydd neu gynorthwyydd dysgu.
O 2021, bydd rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf pythefnos o brofiad mewn ysgol neu leoliad addysgol. Gallai hyn fod fel gwirfoddolwr, intern neu fyfyriwr. Dylai ymgeiswyr gynnwys manylion am hyn yn y CV y maent yn ei gynnwys gyda'u cais.
Dylai fod gan ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf: IELTS 6.5 heb unrhyw elfen o dan 6.0.
Gall myfyrwyr sydd â sgorau is ddilyn cwrs Saesneg cyn-sesiynol yn ELCOS, Canolfan Iaith Saesneg y brifysgol.
- MA Addysg - 6.5 (6.0)
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr cartref yw 31 Awst bob blwyddyn.
Gyrfaoedd
Mae galw mawr am ein graddedigion mewn sawl maes cyflogaeth. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael swyddi mewn ysgolion a phrifysgolion. Mae rhai yn gweithio i gwmnïau fel hyfforddwyr i'r staff. Mae rhai yn cael swyddi fel gweinyddwyr a swyddogion addysg yn adrannau'r llywodraeth.