Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Rhaglen 'Dysgu o Bell' yw hon. Cyflwynir yr holl gynnwys ar-lein a thrwy ddulliau dysgu o bell.
Defnyddiwch y cod UCAS perthnasol wrth wneud cais am y cwrs hwn:
- Atal, Iechyd Poblogaethau ac Arweinyddiaeth (Dysgu o Bell) MSc, 1 flwyddyn yn llawn amser; 2 flynedd yn rhan-amser, 3 blynedd rhan-amser cod UCAS: B7DX (Cyf: MSC/PPHL)
Am gyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am y cwrs hwn, darllenwch y cyfarwyddiadau hyn.
Mae'r syniad bod atal yn well na gwella yn fwy perthnasol nag erioed. Yn wir, wrth afiechydon lluosog ac anhwylderau hir dymor y mae’n bosib eu hosgoi’n effeithio’n gynyddol ar boblogaethau, mae gwir angen canolbwyntio ar atal salwch. Mae atal salwch yn ymwneud â helpu pobl i gadw'n iach, yn hapus ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd. Mae'n golygu atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf; canolbwyntio ar gadw pobl yn iach, nid dim ond eu trin pan fyddant yn mynd yn sâl. Yn wir, nid diffyg salwch neu wendid yn unig yw iechyd ataliol, ond meddu ar set o adnoddau personol sy’n rhaid eu meithrin a'u datblygu i sicrhau iechyd meddwl ac iechyd corfforol da. Yn ogystal, nid yw iechyd ataliol yn rhywbeth y gall y system iechyd a gofal cymdeithasol ei ddatrys ar ei ben ei hun, gan fod llawer o agweddau sy'n dylanwadu ar iechyd da sydd y tu hwnt i reolaeth y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid ymgorffori ymwybyddiaeth o degwch iechyd ac ymrwymiad iddo yn narpariaeth gofal iechyd er mwyn i iechyd ataliol lwyddo trwy’r gymdeithas gyfan.
Mae Atal, Iechyd Poblogaethau ac Arweinyddiaeth (Dysgu o Bell) MSc yn darparu hyfforddiant i arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i reoli ac arwain arloesi effeithiol mewn ymarfer yn eu sefydliadau, gan ganolbwyntio ar iechyd ataliol a thegwch. Bydd y rhaglen hon yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi gynllunio, datblygu a gwerthuso gweledigaeth gyffredin a chynhwysol ar gyfer eich sefydliad, gan ddefnyddio’r ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd ataliol, tegwch a theori arweinyddiaeth effeithiol. Yn ogystal, cewch gyfle i gynllunio ymchwil, casglu data, a chymhwyso eich canfyddiadau eich hun yn eich gwaith er mwyn gweithredu newid cadarnhaol. Trwy weithdai, darlithoedd ac asesiadau â chymorth, cewch eich grymuso i ddatblygu diwylliant cydweithredol yn eich sefydliad a fydd yn cynyddu gallu'r gweithlu i gyflawni dyheadau’r ddogfen “Cenedl Iachach” yn effeithiol.
Mae'r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant (AHEPW) yn falch o gynnig y rhaglen hon, a gefnogir gan Brifysgol Bangor ac sy'n rhan o fenter Academi Dysgu Dwys Llywodraeth Cymru. Mae’r ymdrech hon wedi arwain at greu canolfannau mewn prifysgolion yng Nghymru sy’n darparu addysg ac ymchwil i helpu systemau iechyd a gofal cymdeithasol ymdopi â heriau heddiw a heriau’r dyfodol. Mae AHEPW yn ymroi i roi syniadau iechyd ataliol ar waith yng ngofal iechyd bob dydd yn gyflym. Mae'n gweithio ar draws gwahanol feysydd fel iechyd a gofal cymdeithasol, elusennau, tai, addysg, a'r diwydiant gwyddorau bywyd. Y nod yw adeiladu cymuned o arweinwyr gwybodus, egnïol a all arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â phroblemau iechyd a phroblemau cymdeithasol cysylltiedig.
Beth mae'r rhaglen hon yn ei gynnig?
- Eich galluogi i reoli ac arwain arloesi mewn ymarfer ac mewn modd effeithiol yn eich sefydliad, gan sicrhau bod systemau dysgu, monitro a gwerthuso proffesiynol yn cyd-fynd â bwriadau strategol y sefydliad.
- Rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi allu meithrin gwytnwch ledled eich sefydliad.
- Datblygu a gwerthuso gweledigaeth gyffredin a chynhwysol yn eich sefydliad, gan gyfeirio at y datblygiadau diweddaraf mewn iechyd ataliol (yn genedlaethol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol) ynghyd â theori arweinyddiaeth effeithiol.
- Eich grymuso i ddatblygu diwylliant cydweithredol sy'n cynyddu gallu'r gweithlu i gyflawni dyheadau’r ddogfen “Cenedl Iachach” yn effeithiol.
- Eich galluogi i gasglu a defnyddio data er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.