Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen hon yn graddio gyda chymhwyster deuol sef gradd Meistr Prifysgol Bangor a chymhwyster Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth.
Mae'r radd hon yn archwilio egwyddorion, cysyniadau damcaniaethol ac ymarfer marchnata yng nghyd-destun busnes a rheolaeth, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau academaidd a chymhwysol mewn marchnata, gan gynnwys hysbysebu, rheolaeth a theyrngarwch brandiau, gwasanaeth cwsmeriaid, cysylltiadau cyhoeddus ac ymchwil marchnad. Bydd y rhaglen yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ar draws ystod ehangach o bynciau busnes a rheolaeth, gan gynnwys sefydliadau, sut y cânt eu rheoli a'r amgylchedd allanol cyfnewidiol y maent yn gweithredu o'i fewn; ac yn datblygu eich gallu i gymryd trosolwg strategol o faterion busnes a materion sefydliadol.
Un amcan pwysig yw darparu hyfforddiant dadansoddol perthnasol i chi, er mwyn i chi fod yn gyfarwydd â'r datblygiadau strategol, rheolaethol a diwydiannol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnata yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Byddwn yn edrych ar farchnata ar lefel lleol, cenedlaethol a byd-eang. Gallwch ddewis ymgymryd â thraethawd hir ar bwnc busnes neu farchnata.
Derbynnir myfyrwyr i'r cwrs hwn ym mis Ionawr a mis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Busnes a Marchnata.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd 2.ii israddedig mewn pwnc perthnasol, (e.e. Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Busnes, Rheolaeth neu Farchnata) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried.