Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cynlluniwyd y rhaglen hon i'ch helpu i ddod yn arbenigwr ym meysydd Cyfraith Ryngwladol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phobl: Cyfraith Droseddol Ryngwladol a Chyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol. Byddwch yn astudio modiwlau sylfaenol yn y meysydd hyn ac yn ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o fewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol neu Gyfraith Hawliau Dynol Ryngwladol. Gellir dewis y modiwlau sy'n weddill o ystod o opsiynau perthnasol.
Trwy waith cwrs a gynlluniwyd yn ofalus a dulliau addysgu amrywiol, byddwch yn dysgu bod yn ddeallusol agored a dysgu sgiliau sy’n ymwneud ag arbenigedd technegol a meddwl yn feirniadol, sy’n hanfodol er mwyn bod yn effeithiol mewn maes lle ceir cystadleuaeth gynyddol fyd-eang am swyddi. Bydd y rhaglen yn eich paratoi i ymateb yn effeithiol i'r ystod eang o sialensiau deallusol a phroffesiynol sy'n wynebu rhai sy'n gweithio ar faterion cyfreithiol yn ymwneud â'r person dynol, ac i ddelio â gwaith achosion a llunio polisïau.
Gofynion Mynediad
Fel rheol rydym yn gofyn am o leiaf radd 2.ii mewn pwnc cysylltiedig (e.e. Y Gyfraith, Astudiaethau Rheolaeth, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Gwyddorau Cymdeithas) o brifysgol a gymeradwyir. Bydd ceisiadau gan rai â graddau mewn disgyblaethau nad ydynt yn perthyn yn cael eu hystyried fesul achos. Ar y llaw arall, gellir eich derbyn os oes gennych gymhwyster proffesiynol addas neu brofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, caiff ymgeiswyr eu dewis gan ystyried eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.
Gyrfaoedd