Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Drwy gwblhau pob arholiad ar y cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn gallu cael 11 eithriad o'r CIMA. I gael rhagor o wybodaeth am eithriadau CIMA ewch i'n tudalen Cydnabyddiaeth ac Achrediadau Proffesiynol.
Mae'r rhaglen radd hon yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr).
Nod yr MSc mewn Cyfrifeg yw datblygu dealltwriaeth yr unigolyn o rôl cyfrifeg wrth wneud penderfyniadau y tu mewn a'r tu allan i sefydliadau.
Ar y cwrs hwn bydd myfyrwyr yn cynnal astudiaeth uwch o sefydliadau, sut y cânt eu rheoli, swyddogaeth cyfrifeg ar gyfer defnyddwyr mewnol ac allanol, a'r cyd-destun allanol cyfnewidiol y maent yn gweithredu o'i fewn. Bydd myfyrwyr yn datblygu'r gallu i gymhwyso eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth am gyfrifeg i faterion cymhleth.
Llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig)
Mae llawer o’n rhaglenni gradd yn rhoi'r cyfle i ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr). Erbyn hyn, y CFA yw’r cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch ym maes cyllid yn y byd i gyd.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn yn astudio modiwl newydd o'r enw Ymchwil Ariannol a Chyfres CFA yn ystod yr haf. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ymchwil ym mis Mehefin ac yna’n cael hyfforddiant arbenigol i’w paratoi at yr arholiad CFA Lefel 1 a ddarperir gan Fitch Learning, sy'n ddarparwr addysg CFA cydnabyddedig ac achrededig. Bydd y dysgu’n cynnwys dau ddiwrnod o seminarau ymchwil ym mis Mehefin a phum bloc deuddydd o hyfforddiant, ynghyd â dau floc ychwanegol o adolygu yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd asesiadau yn dilyn y seminarau a'r hyfforddiant CFA.
Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn.
Ond bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda’r CFA Institute a thalu er mwyn sefyll yr arholiad. Telir ffioedd cofrestru ac arholiad i'r CFA Institute.
Gallwch gofrestru ar y llwybr CFA hwn ar ôl i chi gyrraedd Bangor. Os hoffech wneud ymholiadau ymlaen llaw, cysylltwch ag owain.apgwilym@bangor.ac.uk.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfrifeg.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (2.ii neu uwch) neu gymhwyster cyfatebol gan brifysgol neu gorff cymeradwy arall sy'n dyfarnu graddau. Gellir ystyried hefyd gymhwyster ac eithrio gradd y bernir ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn i gwrs ôl-radd.
Mae profiad gwaith yn ddymunol. Mae astudio cyfrifeg (fel rhan o radd gyntaf er enghraifft) neu brofiad o weithio ym maes cyfrifeg yn hanfodol.
Gyrfaoedd
Mae rhagolygon ein graddedigion yn rhagorol os ydynt am ddilyn gyrfa mewn ystod eang o swyddogaethau yn sectorau'r economi fyd-eang gan gynnwys cyfrifeg, busnes, bancio a chyllid. Mae pwyslais y rhaglenni ar sicrhau dealltwriaeth ymarferol yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr ac yn eu galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt yn y sectorau uchod. Er enghraifft, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau technegol wrth gynnal ymchwil annibynnol ac wrth weithio mewn tîm.
Mae gan raddedigion Ysgol Busnes Bangor record lwyddiannus o ran cyflogadwyedd ac mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn cael eu cyflogi mewn swyddi uwch ledled y byd, o Stryd Downing a'r Deutsche Bank i Accenture Luxembourg ac Awdurdod Ariannol Ynysoedd y Caiman.