Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bwriedir y radd hon i fyfyrwyr sydd â diddordeb cyffredinol mewn Cymdeithaseg ac sy'n dymuno diweddaru, ymestyn a dyfnhau eu gwybodaeth a deall datblygiadau cyfredol yn y maes. Nod y rhaglen yw rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ehangu eu gwybodaeth am y ddisgyblaeth drwy ymwneud ag ymchwil gyfoes a thrwy gynnal astudiaeth hanesyddol a chymharol.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn llawn-amser. 2-3 blynedd rhan-amser hefyd. Gellir dechrau'r rhaglen hon naill ai ym mis Ionawr neu fis Medi
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymdeithaseg.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr radd gyntaf dda mewn Cymdeithaseg neu bwnc cysylltiedig. Gellir derbyn myfyrwyr sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol hefyd. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd yn y categori hwn ddarparu tystiolaeth gadarn yn eu cais a gellir eu cyfweld cyn gwneud cynnig iddynt.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.